Our use of Cookies

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Hide this message

Strictly necessary and non-essential cookies

By clicking accept all cookies, you agree to our use of cookies and to our cookie policy.

We use third-party cookies on this site.

You have accepted necessary cookies only

You can change your cookie settings at any time
Hide this message

Strategaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol Prydain Fawr: 2023 i 2030

Last edited: 27 February 2023
Author: Department for Environment, Food & Rural Affairs, The Scottish Government, and Welsh Government

PDF version

© Hawlfraint y Goron 2023

Mae’r wybodaeth hon wedi ei thrwyddedu o dan Drwydded Llywodraeth Agored v3.0. I weld y drwydded, hon ewch i www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/  

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn atom yn nnss@apha.gov.uk

www.gov.uk/defra

 

Cynnwys

 

Rhagair y gweinidog

Mae Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) yn bygwth ein bioamrywiaeth, ein hecosystemau a’n heconomi. Maent yn un o’r pum prif bethau sy’n sbarduno colli bioamrywiaeth ar raddfa fyd-eang[1]. Maent yn bygwth ein gallu i gyrraedd ein targedau amgylcheddol ehangach ac i ymateb i’r argyfyngau rydym yn eu hwynebu yn yr hinsawdd ac ym myd natur, ac yn costio bron i £1.9 biliwn y flwyddyn i economi Prydain Fawr[2] mewn costau uniongyrchol.

Mae angen strategaeth o'r newydd i fynd i’r afael â’r rhywogaethau hyn a’u hatal rhag amharu ar ein huchelgeisiau amgylcheddol ehangach. Ar lefel fyd-eang, mae’r Deyrnas Unedig wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o negodi Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang newydd yn COP15 y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol. Mae’r fframwaith newydd hwn yn gyfle hanesyddol i sbarduno gweithredu byd-eang uchelgeisiol dros y degawd nesaf, gan gynnwys targed penodol ar rywogaethau goresgynnol estron[3].

Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru i gyd wedi ymrwymo i ddiogelu 30% o dir a moroedd y byd erbyn 2030. Mae rheoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol yn effeithiol, fel y nodir yn y strategaeth hon, yn chwarae rhan bwysig o ran sicrhau bod statws ecolegol gofynnol ardaloedd gwarchodedig yn cael ei gyflawni. Yn yr un modd, mae rheoli INNS hefyd yn rhan bwysig o ymdrechion parhaus i sicrhau ein bod yn diogelu bwyd ac yn defnyddio tir yn effeithiol mewn ffordd gynhyrchiol. Fel rhan o’r gwaith o gynllunio plannu coed yn ofalus er mwyn cyrraedd targed cyfreithiol rwymol y Deyrnas Unedig i sicrhau allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050, bydd yn parhau i fod yn bwysig plannu’r goeden iawn yn y lle iawn a dod o hyd i ffyrdd gwell o warchod coed rhag INNS. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi gosod targed blaenllaw i atal y dirywiad mewn rhywogaethau erbyn 2030, o dan Ddeddf yr Amgylchedd 2021, ac mae targedau adfer natur tebyg yn cael eu datblygu yn yr Alban ac yn cael eu hystyried yng Nghymru. Bydd mynd i’r afael â’r bygythiad a achosir gan INNS i fioamrywiaeth frodorol yn allweddol i gyrraedd y targedau hyn a bydd yn sbarduno gweithredu i adfer rhywogaethau brodorol, fel y wiwer goch.

Ers cyhoeddi’r strategaeth ddiwethaf, mae ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r taer angen i flaenoriaethu bioamrywiaeth ac adferiad gwyrdd wedi cynyddu. Mae’r strategaeth hon yn rhan allweddol o sicrhau bod Prydain Fawr yn parhau i ddangos, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ein bod yn cymryd y bygythiad a gyflwynir gan rywogaethau estron goresgynnol o ddifri a’n bod yn barod i gymryd camau ar y cyd yn erbyn hyn. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Gogledd Iwerddon a’n partneriaid rhyngwladol.

Rydym yn gwybod beth mae angen i ni ei wneud a sut mae gwneud hynny, gyda chamau ataliol cadarn a rheoli llwybrau risg uchel wrth galon ein dull gweithredu. Mae’r Strategaeth newydd hon yn adeiladu ar lwyddiannau’r blynyddoedd blaenorol ac mae’n nodi cyfres o nodau uchelgeisiol i lywio ein partneriaeth gref rhwng y llywodraeth, mudiadau gwirfoddol, cyrff anllywodraethol, ymchwilwyr, busnesau a’r cyhoedd i 2030.

Llofnod Yr Arglwydd Richard BenyonLlofnod Lesley Griffiths ASLlofnod Lorna Slater ASA

Yr Arglwydd Richard Benyon, Y Gweinidog Bioddiogelwch a Materion Morol a Gwledig, Llywodraeth y DU

Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Llywodraeth Cymru

Lorna Slater ASA, Gweinidog Sgiliau Gwyrdd, yr Economi Gylchol a Bioamrywiaeth Llywodraeth yr Alban

 

Pennod 1: Cyflwyniad a chwmpas

Cyhoeddwyd Strategaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) Prydain Fawr am y tro cyntaf yn 2008 (Strategaeth 2008) a’i diweddaru yn 2015 (Strategaeth 2015). Mae’r Strategaeth ddiwygiedig hon yn gosod llwyfan uchelgeisiol ar gyfer gwaith ar Rywogaethau Estron Goresgynnol yn y dyfodol, gan ystyried argymhellion adolygiad a gynhaliwyd yn 2020/21[4].

Mae’r Strategaeth yn cwmpasu rhywogaethau estron goresgynnol mewn amgylcheddau tir, dŵr croyw a morol a hefyd rhywogaethau sy’n frodorol i un rhan o wlad ond sy’n dod yn oresgynnol mewn ardaloedd y tu allan i’w tiriogaeth naturiol. Defnyddir y term ‘rhywogaethau estron’ (non-native species) drwy’r ddogfen hon ac mae’n cyfateb i ‘alien species’ (fel y’i defnyddir gan y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol[5] (CBD)) a ‘non-indigenous species’ (fel y’i defnyddir gan Gomisiwn OSPAR[6] a Strategaeth Forol y DU[7]); mae’n cyfeirio at rywogaeth a gyflwynwyd yn fwriadol neu’n anfwriadol mewn ardaloedd sydd y tu allan i diriogaeth frodorol y rhywogaeth honno drwy weithredoedd dyn. Mae ‘rhywogaeth estron oresgynnol’ (INNS)[8] yn golygu unrhyw anifail neu blanhigyn estron sy’n gallu lledaenu gan achosi difrod i’r amgylchedd, i’r economi, i’n hiechyd neu i’r ffordd rydym yn byw.

Mae cwmpas y Strategaeth yn cynnwys pob rhywogaeth estron o blanhigion ac anifeiliaid ac eithrio organebau a addaswyd yn enetig (GMOs), bacteria a feirysau. Fodd bynnag, mae ei heffaith lawn wedi’i hanelu at y rhywogaethau estron hynny y gwyddys eu bod, neu a allai fod, yn oresgynnol. Nid yw’r Strategaeth yn ceisio mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â rhywogaethau brodorol yn flaenorol, ac nid yw ychwaith yn ymdrin â chlefydau anifeiliaid neu blanhigion sy’n dod o dan gyfundrefnau bioddiogelwch eraill, er ei bod yn ceisio sicrhau cydweithio agos gyda’r ardaloedd hyn lle bo hynny’n briodol. Mae’r Strategaeth hon yn ategu cynlluniau a strategaethau cenedlaethol a rhanbarthol eraill sy’n ymwneud â rhywogaethau penodol gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â rheoli ceirw, rheoli’r wiwer lwyd a dail-ceiniog arnofiol.

Ein gweledigaeth

Mae bioamrywiaeth, ecosystemau, pobl ac economi Prydain Fawr yn cael eu gwarchod rhag y risgiau a achosir gan rywogaethau estron goresgynnol drwy bartneriaeth gref rhwng y llywodraeth, mudiadau gwirfoddol, cyrff anllywodraethol, ymchwilwyr, busnesau a’r cyhoedd. 

Yr angen am strategaeth

Mae nifer y rhywogaethau estron goresgynnol ym Mhrydain yn dal i godi. Yn 2021, roedd tua 2,000 o rywogaethau estron wedi ymsefydlu ym Mhrydain[9], gyda 10 i 12 o rai newydd yn ymsefydlu bob blwyddyn. Dyma'r duedd ledled y byd ac, os nad eir i'r afael â hyn yn ddigonol, bydd y niferoedd yn parhau i gynyddu hyd y gellir rhagweld.

Mae bariau o uchder cynyddol yn dangos bod nifer y rhywogaethau estron goresgynnol sydd mewn neu ar hyd 10% neu fwy o arwynebedd tir neu arfordir Prydain wedi cynyddu rhwng 1960 a 2020. Mae nifer y rhywogaethau tir wedi cynyddu o lai na 30 i fwy na 60, y rhywogaethau morol o lai na 10 i bron i 30, a rhai dŵr croyw o lai na 10 i fwy na 10.

Ffigur 1 B6i: Nifer y rhywogaethau estron goresgynnol sydd wedi sefydlu yn neu ar hyd 10% neu fwy o arwynebedd tir neu arfordir Prydain Fawr, 1960 i 2020. Ffynhonnell: Cymdeithas Fotaneg Prydain ac Iwerddon; Ymddiriedolaeth Adareg Prydain; Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU; y Gymdeithas Fioleg Forol; Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.

Roedd asesiad 2021 y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd o'r risgiau i’r DU o ran yr hinsawdd[10] wedi nodi rhywogaethau estron goresgynnol fel risg â blaenoriaeth y mae cynefinoedd a rhywogaethau tir, dŵr croyw a morol, yn ogystal ag amaethyddiaeth a choedwigaeth yn eu hwynebu. Disgwylir y bydd y newid yn yr hinsawdd yn cynyddu’r risg a gyflwynir gan nifer o rywogaethau estron nad ydynt yn gallu ymsefydlu ar hyn o bryd. Bydd cyfuniad o ffactorau, fel gaeafau heb rew a mwy o lifogydd, yn cynyddu tiriogaeth a helaethrwydd llawer o rywogaethau estron goresgynnol. Gall cynefinoedd dan straen hefyd fod yn fwy agored i oresgyniad ac afiechyd, gan gynyddu’r risg i gynefinoedd bioamrywiaeth naturiol. Fel risg â blaenoriaeth, gyda’r sgôr uchaf o ran brys, mae’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd wedi argymell y dylid rhoi camau pellach ar waith i fynd i’r afael â hyn cyn gynted â phosibl. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i lunio 3ydd Rhaglen Addasu Cenedlaethol mwy cadarn ac uchelgeisiol ar gyfer 2023/28, lle bydd camau gweithredu i leihau’r risg hon yn Lloegr yn cael eu nodi. Mae Cynllun Ymaddasu Cenedlaethol 5 mlynedd presennol Llywodraeth Cymru ‘Cymru sy’n Effro i'r Hinsawdd[11]’ yn cynnwys nifer o gamau gweithredu ar gyfer mynd i’r afael â'r risgiau a gyflwynir gan rywogaethau estron goresgynnol yng nghyd-destun newid hinsawdd, ac mae’r cynllun 5 mlynedd nesaf ar gyfer Cymru i fod i gael ei gyhoeddi yn 2024. Mae rhaglen ymaddasu genedlaethol 5 mlynedd bresennol Llywodraeth yr Alban, ‘Climate Ready Scotland: Second Scottish Climate Change Adaptation Programme 2019 i 2024[12]’ hefyd yn cynnwys camau gweithredu ar gyfer rheoli'r risgiau cynyddol a gyflwynir gan rywogaethau estron goresgynnol wrth i’r hinsawdd newid.

Heddiw, mae tua 10 i 15% o’r rhywogaethau estron sydd wedi ymsefydlu ym Mhrydain Fawr yn achosi effeithiau niweidiol sylweddol. Mae rhywogaethau dyfrol yn tueddu i fod yn fwy goresgynnol na rhai daearol, ac mae anifeiliaid yn fwy goresgynnol na phlanhigion. Mae’r effeithiau’n cynnwys y canlynol:

  • Amgylcheddol: amharu ar gynefinoedd ac ecosystemau, ysglyfaethu ar rywogaethau brodorol neu ragori arnynt, lledaenu afiechyd, ac ymyrryd ag integriti genetig rhywogaethau brodorol. Mae effaith ecolegol rhai rhywogaethau estron goresgynnol, fel minc America, cimwch afon America a’r wiwer lwyd, yn hysbys iawn, ond nid yw effeithiau eraill wedi cael eu cofnodi cystal
  • Economaidd: amcangyfrifir mai cost y rhywogaethau estron goresgynnol sydd wedi’u cynnwys gan y Strategaeth ym Mhrydain yw £1.84 biliwn y flwyddyn[13]. Mae llawer o’r gost hon yn cael ei hysgwyddo gan y sectorau amaethyddiaeth a choedwigaeth, ond mae hefyd yn effeithio ar lawer o sectorau eraill, gan gynnwys trafnidiaeth, adeiladu, dyframaethu, hamdden a chyfleustodau. Amcangyfrifir bod clymog Japan yn unig yn costio oddeutu £247 miliwn y flwyddyn i economi Prydain[14]
  • Cymdeithasol: mae rhai rhywogaethau’n achosi problemau i iechyd pobl neu maent yn niwsans. Er enghraifft, gall sudd yr enfwr enfawr achosi llosgiadau wrth ddod i gysylltiad â chroen pobl ac wedi’i gyfuno ag ymbelydredd UV. Mae planhigion estron goresgynnol, fel y dail-ceiniog arnofiol, yn gallu tagu cronfeydd dŵr, gan atal mynediad ar gyfer mordwyo a genweirio. Mae rhai bygythiadau sylweddol i iechyd pobl yn cael eu hachosi gan rywogaethau nad ydynt wedi cyrraedd Prydain Fawr eto ond a allai ymsefydlu yn y dyfodol, fel y mosgito teigr Asiaidd (Aedes albopictus) sy’n gallu cario clefydau difrifol

Anifail coch / brown gyda chorff hir ar gefn aderyn llwyd mawr (ar y chwith). Afon wedi’i gorchuddio â matiau mawr o blanhigyn deiliog gwyrdd (ar y dde).

Ffigur 2 Minc America yn ymosod ar gyw hugan (ar y chwith). Y dail-geiniog arnofiol yn gorchuddio crynofa ddŵr ar y dde). (Lluniau: John W Anderson, Asiantaeth yr Amgylchedd).

Gan gydnabod y bygythiad cynyddol o du rhywogaethau estron, mae'r CBD yn sbardun pwysig ar gyfer gweithredu rhyngwladol. Mae un o’i egwyddorion arweiniol yn galw am strategaethau cenedlaethol ar Rywogaethau Estron Goresgynnol. Mae’r Strategaeth hon yn darparu’r fframwaith i gefnogi’r gwaith o gydlynu polisïau a gweithredu ledled Prydain Fawr, ac yn cysoni’r ymdrechion hyn â strategaethau amgylcheddol a bioddiogelwch cenedlaethol a rhyngwladol. Er bod Strategaeth 2015 yn cwmpasu cyfnod o bum mlynedd, mae’r Strategaeth hon yn rhedeg tan 2030, sy’n golygu ei bod yn cyd-fynd â strategaethau ac ymrwymiadau amgylcheddol eraill. Mae’n ystyried llwyddiannau Strategaeth flaenorol 2015 yn ogystal â chanlyniadau adolygiad 2020/2021[15].

Llwyddiannau strategaeth 2015

Un o amcanion allweddol polisi ym Mhrydain Fawr fu datblygu dull cadarn o weithio mewn partneriaeth, gyda Strategaeth 2015 yn darparu fframwaith ar gyfer cefnogi a chydlynu'r gweithredu. Mae’r cyflawniadau ers 2015 yn adlewyrchu’r cydweithio eang hwn rhwng llywodraethau, diwydiant, cyrff anllywodraethol, gwirfoddolwyr a rhanddeiliaid eraill.

Ers 2015, rydym wedi:

  • wedi cael gwared ar farchlyffantod Americanaidd o Brydain, pedair rhywogaeth arall yn y broses o gael eu dileu, ac wedi parhau i weithio i gael gwared ar yr hwyaden goch,[16] sy’n dangos ymrwymiad Prydain Fawr i ddiogelu bioamrywiaeth ar lefel ryngwladol a gosod esiampl ryngwladol fel yr ymgais fwyaf yn y byd i ddileu adar ar raddfa fawr
  • llwyddo i weithredu’r cynllun wrth gefn ar gyfer cacynen Asia ar y cyd, ynghyd â chydweithwyr Iechyd Gwenyn, yn flynyddol ers 2016
  • dadansoddi a blaenoriaethu llwybrau cyflwyno ar gyfer atal, a datblygu tri chynllun gweithredu llwybr gyda rhanddeiliaid, gyda phedwerydd yn cael ei ddatblygu (Pennod 3)
  • datblygu a chytuno ar gynlluniau wrth gefn generig[17] sy’n amlinellu sut bydd y llywodraeth a phartneriaid gweithredol yn ymateb i achos o glefyd estron goresgynnol
  • parhau i ddatblygu ein mecanwaith dadansoddi risg, gan ddatblygu dulliau rheoli risg i helpu i flaenoriaethu rhywogaethau i’w difa ar sail y gost, y risg a berir ac ymarferoldeb
  • cydweithio â’r Tiriogaethau Tramor i wella eu bioddiogelwch drwy amrywiol brosiectau Swyddfa Dramor y Gymanwlad a Datblygu a phrosiectau a ariennir gan Defra
  • parhau i gefnogi’r Porth Gwybodaeth am Rywogaethau Estron (NNSIP)[18], gan ganolbwyntio ar agweddau fel ei system rybuddio ac ail ymarfer sganio’r gorwel
  • datblygu Cynllun Strategol Tystiolaeth[19] ac wedi ariannu ymchwil strategol, er enghraifft, asiantau bioreoli ar gyfer amrywiaeth o blanhigion estron goresgynnol, gan gynnwys clymog Japan, Jac y Neidiwr a'r dail-geiniog arnofiol
  • parhau i gefnogi’r rhwydwaith o grwpiau gweithredu lleol i hwyluso gweithredu strategol ar raddfa leol, gan fanteisio i’r eithaf ar y gwaith amhrisiadwy mae grwpiau gweithredu lleol yn ei wneud
  • ehangu Wythnos Rhywogaethau Ymledol[20] ac adnewyddu’r ymgyrchoedd ‘Mynd at Wraidd y Mater’ (Be Plant Wise) a ‘Gwiriwch, Glanhewch a Sychwch’ (Check, Clean, Dry), sydd wedi cael eu cryfhau drwy fentrau cydweithredol newydd gyda rhanddeiliaid - er enghraifft, fel gyda chwmnïau dŵr ar y Bartneriaeth Bioddiogelwch Acwstig[21]
  • rhoi fframwaith cyfreithiol newydd ar waith ym mhob Gweinyddiaeth ym Mhrydain sy’n rhoi adnoddau pwysig i ni ar gyfer mynd i’r afael â rhywogaethau sy’n peri pryder arbennig[22] ym Mhrydain Fawr, gan gynnwys mesurau gorfodi gwell ar ffin y DU
  • dechrau sefydlu Arolygiaeth NNS newydd wedi’i modelu ar y rheini ym maes iechyd planhigion, anifeiliaid, pysgod a gwenyn er mwyn i’n hymdrech a lefel ein llwyddiant o ran rheoli NNS gyd-fynd â threfniadau bioddiogelwch eraill (Pennod 9.2)

Dyn a menyw yn archwilio planhigyn â dail trwchus gwastad hir (ar y chwith), Grŵp o bobl mewn trafodaeth. Maent yn eistedd o amgylch bwrdd gyda’u gliniaduron yn agored ar y bwrdd (ar y dde).

Ffigur 3 Gwirio planhigion agafe brodorol am blâu yn Ynysoedd Prydeinig y Wyryf (ar y chwith). Gweithdy sganio’r gorwel i ganfod rhywogaethau estron a fydd yn fygythiad yn y dyfodol i Diriogaethau Tramor yn y Caribî (ar y dde). (Lluniau: Jill Key).

Dyn â gwasgod lachar yn glanhau canŵ gyda chwistrell ddŵr pwysedd uchel.

Ffigur 4: Arolygydd Rhywogaethau Estron yn gweithio gyda phartneriaid Edrych, Golchi, Sychu i wella bioddiogelwch mewn cystadleuaeth padlo (llun: Arolygiaeth Rhywogaethau Estron).

 

Pennod 2: Nod a chanlyniadau strategol

Nod cyffredinol y Strategaeth yw lleihau’r risg o gyflwyno ac ymsefydlu a lleihau effeithiau negyddol rhywogaethau estron goresgynnol ym Mhrydain drwy ddull partneriaeth cadarn. Mae’r Strategaeth hon yn dilyn dull hierarchaidd y CBD, sy’n rhoi pwyslais ar atal, yna canfod yn gynnar ac ymateb yn gyflym, ac yn olaf rheolaeth tymor hir.

Prif ganlyniadau’r Strategaeth yw y byddwn, erbyn 2030, yn gwneud y canlynol:

  • Atal: lleihau nifer y rhywogaethau estron goresgynnol sy’n ymsefydlu ô leiaf 50% o’i gymharu â lefelau'r flwyddyn 2000
  • Cadw gwyliadwriaeth, canfod yn gynnar a monitro: gwella ein gallu i ganfod a monitro yn sylweddol, gan gynnwys cynyddu archwiliadau ac ymchwiliadau
  • Rheolaeth: dileu, rheoli neu gyfyngu ar rywogaethau estron goresgynnol – wedi eu blaenoriaethu yn ôl yr effaith fwyaf a’r tebygolrwydd o lwyddo
  • Blaenoriaethu a dadansoddi risg: nodi dull gweithredu y cytunwyd arno ar gyfer blaenoriaethu rhywogaethau ar sail risg a'r tebygolrwydd o lwyddo i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ble y gallant sicrhau’r budd mwyaf
  • Tystiolaeth: comisiynu’r blaenoriaethau ymchwil a amlinellir yn y Cynllun Strategol Tystiolaeth, i sicrhau bod y strategaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael, a chanfod bylchau a meysydd blaenoriaeth i’w datblygu ymhellach
  • Codi ymwybyddiaeth: cynyddu ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â rhywogaethau estron goresgynnol a hyrwyddo newidiadau priodol mewn ymddygiad neu agweddau ar draws yr holl sectorau perthnasol ac ymysg y cyhoedd yn gyffredinol
  • Cydlynu: gwella’r broses o gydlynu camau gweithredu o fewn llywodraethau, cyrff sy’n gysylltiedig â’r llywodraeth, a chyfranwyr allweddol y tu allan i’r llywodraeth

Rhoddir rhagor o fanylion am bob canlyniad strategol yn y penodau sy’n dilyn, lle darperir Amcanion a Chamau Gweithredu Allweddol. Byddwn yn defnyddio metrigau i helpu i fesur gweithrediad y strategaeth a’i llwyddiant o ran cyflawni canlyniadau (fel yr amlinellir ym Mhennod 11). Bydd cynnydd yn cael ei fonitro ac adroddir arno’n flynyddol (Cam Gweithredu Allweddol 11.3).

 

Pennod 3: Atal

Mae Egwyddorion Arweiniol y CBD yn rhoi pwyslais cryf ar atal fel yr ymyriad lleiaf niweidiol i’r amgylchedd, sy’n cynyddu’r gostyngiad mewn effeithiau niweidiol a’r costau sy’n gysylltiedig â mynd i’r afael â’r goresgyniadau. Mae atal yn bwysig ym mhob amgylchedd, yn enwedig mewn amgylcheddau dyfrol lle mae rheoli a dileu yn heriol yn dechnegol. Gweithredu ar lwybrau cyflwyno, sganio’r gorwel a chynllunio wrth gefn yw’r prif elfennau atal yr ymdrinnir â nhw yn y bennod hon. Mae elfennau eraill sy’n cyfrannu at atal, gan gynnwys deddfwriaeth, dadansoddi risg, ac ymwybyddiaeth y cyhoedd yn cael eu hystyried mewn rhannau eraill o'r Strategaeth hon. 

Ers 2015, mae cynnydd sylweddol wedi bod o ran hyrwyddo mwy o bwyslais ar atal. Mae chwe llwybr wedi’u nodi fel y rhai sydd â'r flaenoriaeth uchaf ar sail y risg o gyflwyno rhywogaethau estron goresgynnol: tyfiant morol yn hel ar gyrff llongau, pethau sy’n glynu wrth offer pysgota, creaduriaid yn dianc o sŵau neu o erddi botaneg, halogion planhigion addurnol, dihangwyr garddwriaethol, a dŵr balast[23]. Mae Cynlluniau Gweithredu Llwybr wedi cael eu datblygu ar gyfer cychod hamdden, genweirio, sŵau a garddwriaeth er mwyn mynd i’r afael â’r risgiau hyn a byddant yn cael eu llunio’n derfynol ar ôl ymgynghori. Cytunwyd ar gynlluniau wrth gefn[24]  i ymateb i Rywogaethau Estron Goresgynnol sydd newydd gyrraedd ar gyfer y rhan fwyaf o amgylcheddau a thacsonau ar draws Prydain Fawr. Ar ben hynny, mae’r cynllun peilot ar gyfer yr Arolygiaeth NNS newydd wedi nodi bod angen mwy o gapasiti i arolygu ac ymchwilio ar y ffin ac ar ôl y ffin, er mwyn rheoli llwybrau cyflwyno a rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith yn fwy effeithiol (Pennod 9.2).

Gyda 10 i 12 o rywogaethau estron goresgynnol newydd yn ymsefydlu bob blwyddyn, mae’n hanfodol ein bod yn gallu rhagweld ymlaen llaw pa rywogaethau sy’n debygol o gael eu cyflwyno, ymsefydlu, lledaenu a chael effaith niweidiol. Mae hyn yn gynyddol bwysig gan y gallai newid yn yr hinsawdd newid y risg o rywogaethau’n ymsefydlu a’u heffaith bosibl[25]. Felly, mae sganio'r gorwel yn elfen allweddol o ran atal ac mae’n bwysig iawn i lywio ein hymdrechion yng nghyswllt dadansoddi risg, rheoli llwybrau a chynllunio wrth gefn, ac yn 2013 a 2019, cynhaliodd prosiect NNSIP ymarfer sganio’r gorwel. Byddwn yn parhau i hyrwyddo’r dull hwn, gan gadw mewn cof y datblygiadau ledled Ewrop a dulliau eraill o ymdrin â bioddiogelwch, yn enwedig y Gofrestr Risg Iechyd Planhigion. Bydd hyn yn ategu ymchwil i ddeall y risgiau sy’n newid o dan hinsawdd yn y dyfodol, fel y nodir ym Mhennod 7. Rydym hefyd yn gweithio i wella prosesau rheoli risg mewn polisïau creu coetiroedd a choedwigaeth a chreu coetiroedd ledled Prydain o ran rhywogaethau estron goresgynnol. Pan gynigir rhywogaethau coed newydd neu wahanol ar gyfer cynlluniau plannu coetiroedd yn Lloegr a Chymru, bydd awdurdodau coedwigaeth yn asesu’r risg o oresgyniad a gyflwynir gan y rhywogaethau newydd neu wahanol sy’n cael eu cynnig, gan gynnwys croesiad, er mwyn helpu i sicrhau bod y risgiau’n cael eu lliniaru. Yn yr Alban, bydd system drwyddedu sydd eisoes wedi’i sefydlu yn parhau i reoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â phlannu rhywogaethau coed estron.

Bydd atal cyflwyno ac ymsefydliad rhywogaethau estron goresgynnol newydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel ym Mhrydain. Byddwn yn ceisio rhoi blaenoriaeth i’r llwybrau hynny sy’n peri’r risg fwyaf a byddwn yn cwblhau’r gyfres o Gynlluniau Gweithredu Llwybr ar gyfer llwybrau blaenoriaeth, gan sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni’n effeithiol a bod adnoddau ar gael ar eu cyfer. Bydd yr Arolygiaeth NNS newydd yn cryfhau ymhellach y gwaith sy’n cael ei wneud ar ffiniau ac yn ceisio integreiddio â’r trefniadau bioddiogelwch presennol (fel Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion). Byddwn yn parhau i ymgysylltu ag awdurdodaethau BIC a’n cymdogion drwy Gonfensiwn Bern i rannu gwybodaeth am rywogaethau newydd a bygythiadau i lwybrau.

Astudiaeth achos: Cacynen Asia: effeithiolrwydd cynlluniau wrth gefn

Mae cacynen Asia (Vespa vlutina) yn ysglyfaethwr ymosodol sy’n lladd gwenyn mêl a phryfed eraill. Yn 2004, cyflwynwyd y rhywogaeth hon yn anfwriadol yn Ffrainc lle daeth yn gyffredin yn gyflym, ac erbyn hyn mae hefyd wedi ymsefydlu yn Sbaen, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Portiwgal, yr Eidal, y Swistir a’r Almaen. Cyrhaeddodd Ynysoedd y Sianel yn 2016.

Dyn â gwasgod lachar yn glanhau canŵ gyda chwistrell ddŵr pwysedd uchel (ar y chwith). Nyth fechan cacwn Asia yn sownd i goeden (ar y dde).

Ffigur 5 Cacynen Asia a nyth

Er mwyn mynd i’r afael â’r pryder y byddai cacynen Asia yn cyrraedd Prydain, comisiynwyd asesiad risg yn 2011. Dilynwyd hyn gan asesiad o’r opsiynau rheoli a chynllun wrth gefn (ar gyfer Cymru a Lloegr), a ddatblygwyd gyda’r nod o ymyrryd yn gyflym a’i hatal rhag sefydlu ym Mhrydain. Defnyddiwyd hwn wedyn i ddatblygu Cynllun Wrth Gefn Penodol ar gyfer Pla ar gyfer cacynen Asia yn disgrifio’r camau y bydd y llywodraeth yn eu cymryd os darganfyddir cacynen Asia ym Mhrydain Fawr. Sefydlwyd system rybuddio (gan gynnwys yr Ap Gwylio Cacynen Asia) sy’n caniatáu i’r cyhoedd roi gwybod yn gyflym ac yn rhwydd os ydynt yn ei gweld.

Canfuwyd cacynen Asia am y tro cyntaf ym Mhrydain yn 2016 a rhoddwyd y cynllun wrth gefn ar waith yn gyflym. Llwyddodd staff yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i ddod o hyd i’r nyth a’i ddistrywio mewn llai nag wythnos. Roedd 12 nyth wedi cael eu darganfod a'u distrywio erbyn diwedd 2021 (Ffigur 7). Y nifer fwyaf o nythod a ganfuwyd mewn unrhyw flwyddyn oedd 3, a hynny yn 2018. Hyd yn oed o dderbyn bod y llwybr cyflwyno yn symlach o ystyried ffin tir Gwlad Belg gyda gwledydd lle mae Cacynen Asia wedi hen ennill ei phlwyf, mae gwrthgyferbyniad clir yn y datblygiad. Yng ngwlad Belg, yn 2016 y canfuwyd cacynen Asia am y tro cyntaf hefyd a nifer y nythod a gafodd eu darganfod a'u distrywio yn 2021 oedd 346, o’i gymharu â 2 ym Mhrydain Fawr (Ffigur 6).

Cynyddodd nifer y nythod cacwn Asia yn Fflandrys, Gwlad Belg i 346 yn 2021 ar ôl i’r nyth gyntaf gael ei darganfod yn 2016. Ym Mhrydain nifer uchaf y nythod a ddarganfuwyd mewn unrhyw flwyddyn oedd 3, yn 2018.

Ffigur 6 Nythod cacynen Asia y daethpwyd o hyd iddynt yn Fflandrys, gwlad Belg a Phrydain Fawr (2016 i 2021)

Map lliwgar o’r DU sy’n darogan y lefel y bydd cacwn Asia yn sefydlu’i hun erbyn 2026 os na chymerir camau i’w dileu. Mae’r oren yn dangos ardaloedd lle mae’r risg yn ganolig a'r coch tywyll yn dangos yr ardaloedd lle mae’r risg yn uchel. Mae’r rhan fwyaf o Gymru a Lloegr yn oren. Mae Llundain, de ddwyrain Lloegr, a’r rhan fwyaf o arfordir de Lloegr yn goch tywyll.

Ffigur 7 Map o’r DU yn dangos i ba raddau y rhagwelir y byddai cacynen Asia wedi lledaenu erbyn 2026 pe na byddai wedi cael ei dileu a lleoliad nythod cacynen Asia a gafodd eu canfod a’u gwaredu rhwng 2016 a 2021.Ffynhonnell: Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU.

Amcan

Lleihau nifer yr achosion o rywogaethau estron goresgynnol yn ymsefydlu bob blwyddyn drwy weithredu cynhwysfawr ar lwybrau ac ymatebion wrth gefn sy’n arwain at ostyngiad o 50% o leiaf yn yr achosion o ymsefydlu yn 2030 o’i gymharu â lefelau 2000.

Camau gweithredu allweddol:

Byddwn yn gwneud y canlynol:

Cam Gweithredu Allweddol 3.1

Cwblhau'r gwaith o ddatblygu Cynlluniau Gweithredu Llwybr (PAP) ar gyfer y chwe llwybr â blaenoriaeth a datblygu Cynlluniau Gweithredu Llwybr ar gyfer y dyfodol mewn partneriaeth â rhanddeiliaid perthnasol;

Cam Gweithredu Allweddol 3.2

Cefnogi ac annog gweithredu a chyflawni Cynlluniau Gweithredu Llwybr effeithiol (fel y nodir ym mhob cynllun);

Cam Gweithredu Allweddol 3.3

Ceisio ymgysylltu’n well â gwledydd eraill er mwyn gwella atal cyn ffiniau;

Cam Gweithredu Allweddol 3.4

Rhoi archwiliadau ac ymchwiliadau ar ffiniau ac ar ôl ffiniau ar waith mewn perthynas â rhywogaethau â blaenoriaeth (Pennod 6), gan sicrhau integreiddio priodol â threfniadau bioddiogelwch sy’n bodoli eisoes ac asiantaethau eraill;

Cam Gweithredu Allweddol 3.5

Parhau i gynnal ymarferion sganio'r gorwel yng nghyswllt bygythiadau sy’n dod i’r amlwg, gan gynnwys cynnal ymarfer sganio’r gorwel gydag ystod eang o randdeiliaid bob 5 mlynedd;

Cam Gweithredu Allweddol 3.6

Cwblhau a phrofi cynlluniau wrth gefn a’u rhoi ar waith, gan sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru yn sgil newidiadau mewn tystiolaeth, llywodraethu a deddfwriaeth a thracio penderfyniadau sy’n cael eu gwneud mewn ymateb i ymgyrchoedd newydd; 

Cam Gweithredu Allweddol 3.7

Meithrin a datblygu arbenigedd a gallu i gyflawni ymatebion wrth gefn ar draws y llywodraeth a rhanddeiliaid perthnasol, er enghraifft drwy rannu gallu â'r cyfundrefnau iechyd anifeiliaid a phlanhigion.

Cam Gweithredu Allweddol 3.8

Sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu’r drefn o gydlynu gwaith atal a gwneud argymhellion ar gyfer mynd i’r afael a rhywogaethau estron goresgynnol morol.

 

Pennod 4: Gwyliadwriaeth, canfod yn gynnar, monitro ac ymateb cyflym

4.1 Gwyliadwriaeth, canfod yn gynnar, monitro

Mae gwybodaeth gywir a chyfredol am wasgariad rhywogaethau estron goresgynnol yn hanfodol i wneud penderfyniadau effeithiol sy’n lleihau eu bygythiad, ac i asesu a fu mesurau ataliol ac amcanion eraill yn llwyddiannus. Ers 2008, mae Porth Gwybodaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr (NNSIP) ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol (NBN)[26] wedi darparu canolbwynt ar gyfer cofnodion NNS ym Mhrydain Fawr (Ffigur 8).

Ers 2015, mae’r mecanwaith rhybuddio wedi cael ei fireinio a’i ddiweddaru i wneud y defnydd gorau o dechnolegau newydd ac mae cynnydd wedi bod o ran gwella nifer y cofnodion NNS, a amlygir gan y nifer cynyddol o adroddiadau sydd ar y system rybuddio. Mae mentrau gwyddoniaeth dinasyddion a systemau ar-lein, fel yr apiau ‘Plant Alert[27]’ ac ‘Asian Hornet Watch[28]’ wedi gwella effeithlonrwydd NNSIP a’r system rybuddio ymhellach. Wrth symud ymlaen, mae cyfleoedd o hyd i wella, fel sicrhau bod y broses o drin ac ymateb i rybuddion mor gyflym â phosibl a bod effeithiolrwydd llif gwybodaeth a diweddariadau i’r gofrestr rhywogaethau yn cael eu gwella. Mae Rheoliad Strategaeth Forol y DU yn gosod gofynion gwyliadwriaeth ychwanegol ar Brydain Fawr[29] a hefyd ar gyfer rhywogaethau estron goresgynnol sydd wedi’u rhestru fel rhai sy’n peri pryder arbennig (Pennod 9.2). Er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r NNSIP a’r mecanweithiau gwyliadwriaeth ehangach, mae angen i ni barhau i ehangu ein hymgysylltiad â’r cyhoedd, Grwpiau Gweithredu Lleol a sefydliadau sy’n gallu helpu i gynyddu llif y data, yn ogystal â gwella nifer y cofnodion sy’n cael eu gwneud.

Bydd Defra, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a hyrwyddo’r NNSIP a gwella’r system rybuddio. Mae’r tair llywodraeth wedi ymrwymo i wella prosesau brysbennu ac ymatebion i rybuddion sy’n golygu bod y naill a’r llall mor gyflym â phosibl, yn ogystal â pharhau i adeiladu ansawdd, maint a chyfradd llif cofnodion NNS ym Mhrydain Fawr.

Mae arsylwadau ar achosion (data dosbarthiad) o rywogaethau estron yn cael eu coladu gan amrywiaeth o bobl a sefydliadau (gan gynnwys iRecord, Cynlluniau Cofnodi dan arweiniad gwirfoddolwyr, mentrau eraill ym maes gwyddoniaeth y bobl, rhai sy’n cydweithio â phrosiect MBA, BSBI a BTO, Canolfannau Cofnodion Lleol, asiantaethau statudol) drwy Atlas yr NBN. Mae gwybodaeth ychwanegol am rywogaethau estron yn cael ei choladu yn y gofrestr rhywogaethau yn y Ganolfan Cofnodion Biolegol (Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU). Mae gwybodaeth a data o’r gofrestr rhywogaethau yn cael ei chyflenwi i’r GB-NNSIP ac oddi yno gallant gael eu cyfnewid â chynlluniau Ewropeaidd  (EASIN - Rhwydwaith Gwybodaeth Rhywogaethau Estron Ewrop) a Byd-eang (GRIIS – Cofrestr Fyd-eang o Rywogaethau a Gyflwynwyd ac Estron).

Ffigwr 8 Diagram i ddangos strwythur a llif data’r NNSIP, a sut mae’n rhyngweithio â’r gymuned ehangach sy’n ymwneud â monitro a chadw golwg ar NNS. Ffynhonnell: Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU.

Amcan

Datblygu a chynnal mecanwaith gwyliadwriaeth, canfod yn gynnar a monitro sy’n hwyluso ymatebion gan reolwyr, gan gynnwys ymateb cyflym, ac sy’n bodloni’r gofynion sy’n ymwneud â rhywogaethau sy’n peri pryder arbennig.

Camau Gweithredu Allweddol:

Byddwn yn gwneud y canlynol:

Cam Gweithredu Allweddol 4.1

Parhau i gynnal a datblygu’r NNSIP;

Cam Gweithredu Allweddol 4.2

Gweithio gyda’r NNSIP, a sefydliadau a chasglwyr data eraill , i gyflymu llif data rhwng sefydliadau a sefydliadau/systemau data;

Cam Gweithredu Allweddol 4.3

Gwella’r gwaith o gadw gwyliadwriaeth a chofnodi NNS drwy barhau i weithio gyda chynlluniau cofnodi, rhwydweithiau, Grwpiau Gweithredol Lleol a mentrau gwyddoniaeth dinasyddion a’u cefnogi, a chwilio am gyfleoedd newydd i weithio gyda sefydliadau proffesiynol sy’n cynnal arolygon ecolegol yn rheolaidd;

Cam Gweithredu Allweddol 4.4

Parhau i wella’r system rybuddio ym Mhrydain Fawr fel ei bod yn gadarn, gyda phrotocolau clir, adnoddau ar gyfer dilysu ac yn adrodd yn brydlon;

Cam Gweithredu Allweddol 4.5

Datblygu gwyliadwriaeth benodol ar gyfer rhywogaethau a llwybrau blaenoriaeth;

Cam Gweithredu Allweddol 4.6

Cefnogi system rybuddio ar gyfer wyth awdurdodaeth y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.

4.2 Ymateb cyflym

Ni fydd mesurau i atal cyflwyno rhywogaethau estron goresgynnol i Brydain yn llwyddiannus bob amser. Felly, po gyntaf y cymerir camau i fynd i’r afael ag unrhyw fygythiad, bydd yna fwy siawns o lwyddo a llai o gostau. Mae’r dull rhagofalus y cyfeirir ato yn y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol yn awgrymu y dylid cymryd camau i ddileu unrhyw NNS, neu atal ei ledaeniad, os yw’n cynrychioli bygythiad, neu’n debygol o gynrychioli bygythiad. Mae hyn yn gofyn am ddigon o adnoddau a chapasiti gweithredol.

Ailsefydlwyd y gweithgor ymateb cyflym yn 2015. Aeth y gweithgor ati i weithredu ar wersi a ddysgwyd mewn ymatebion yn y gorffennol, blaenoriaethu rhywogaethau i’w dileu gan ddefnyddio dulliau rheoli risg (a ddatblygwyd gan Ysgrifenyddiaeth NNS Prydain) ac asesu’r adnoddau a’r capasiti arbenigol sydd eu hangen i ddileu’r rhywogaethau hyn. Cyfrannodd allbynnau’r gweithgor at asesiad o anghenion adnoddau 2018 a cheisiadau dilynol am gyllid. Er gwaethaf y cynnydd hwn, fodd bynnag, dim ond pedair rhywogaeth sydd wedi cael eu dileu o Brydain Fawr ers 2008 (llyffantod crafangog Affricanaidd, pilcod pendew, marchlyffantod Americanaidd a penlletwadau duon ) gyda dim ond un o’r rhywogaethau hyn ers 2015. Mae’r gwaith o ddileu rhywogaethau fel briallu’r dŵr, myrdd-ddail amryddail, llyfrothod uwchsafn a pharotanod mynach yn parhau. Yn ogystal, mae’r cynlluniau wrth gefn cyffredinol wedi cael eu rhoi ar waith o leiaf ddeng gwaith ar gyfer chwe rhywogaeth wahanol, gan gynnwys racwniaid a racŵn-gŵn. Mae’r nifer isel o achosion o ddileu’n llwyr yn bennaf oherwydd yr angen am adnoddau sylweddol fwy ar gyfer atal, fel trefniant wrth gefn ar gyfer ymatebion cyflym, o’i gymharu â’r trefniant ar gyfer rheolaeth hirdymor a diffyg capasiti, arbenigedd a dulliau rheoli effeithiol.

Byddwn yn ceisio cynyddu’r camau gweithredu, gan gynnwys drwy ddarparu ymatebion cyflym i’r holl rywogaethau allweddol a restrir yn atodiadau’r cynlluniau wrth gefn,[30], yn ogystal ag i’r rhai eraill sy’n cyrraedd o’r newydd lle ystyrir eu bod yn fygythiad, a lle mae’r broses o’u dileu yn ymarferol ac yn gost-effeithiol. Byddwn yn ceisio sicrhau bod digon o gyllid a chapasiti gweithredol ar waith a pharhau i gydlynu ymatebion ar lefel Prydain Fawr, gan gynnwys drwy sefydlu rôl yr Arolygiaeth NNS mewn ymatebion cyflym (Pennod 9.2).

Astudiaeth achos: Dileu pysgod goresgynnol 

Ers 2005, mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi bod yn defnyddio’r plaladdwr pysgod Rotenone i reoli poblogaethau pysgod estron ym Mhrydain Fawr. Hyd yma, mae dwy rywogaeth o bysgod goresgynnol — y pilcod pendew (Pemphales promelas) a’r penlletwadau duon (Ameiurus melas) — wedi cael eu dileu o Brydain Fawr, gyda rhaglen ddileu barhaus ar gyfer y llyfrothod uwchsafn (Pseudodorbora parva) yn mynd rhagddi.

Mae llyfrothod uwchsafn yn bysgod goresgynnol iawn sy’n tarddu o Asia, ac maent yn perthyn i deulu o bysgod a elwir yn cyprinidau. Bellach, maent wedi ymledu ar draws holl wledydd Ewrop ers eu cyflwyno yn Rwmania yn 1960. Maen nhw’n gallu sefydlu poblogaethau’n gyflym, yn rhannol oherwydd eu ffrwythlondeb uchel a’u haeddfedrwydd rhywiol cyflym. Dangoswyd bod llyfrothod uwchsafn yn cystadlu’n uniongyrchol â rhywogaethau pysgod brodorol am fwyd ac adnoddau eraill, ond hefyd maent yn bwydo ar wyau pysgod ac yn gallu cario clefydau a pharasitiaid estron newydd.

Ers eu cyflwyno i’r DU yn 1984, mae llyfrothod uwchsafn wedi cael eu darganfod mewn 42 o ddyfroedd ledled Cymru a Lloegr. Yn 2008, penderfynodd Bwrdd y Rhaglen Rhywogaethau Estron mai dyma un o’r rhywogaethau blaenoriaeth ar gyfer ymateb cyflym ar lefel Prydain Fawr ac, erbyn 2022, maent wedi cael eu dileu o bron i 70% o’r lleoliadau hysbys (yn bennaf oll gan Asiantaeth yr Amgylchedd). Y nod yw dileu’r rhywogaeth â blaenoriaeth uchel hon yn llwyr o Brydain Fawr. Mae’r rhaglen ddileu wedi arwain at ddatblygu’r arfau, yr arbenigedd a’r gallu i reoli’n well yr ymosodiadau presennol gan rywogaethau dyfrol, yn ogystal â rhai yn y dyfodol. Mae rhaglen gwyliadwriaeth weithredol ar gyfer llyfrothod uwchsafn hefyd yn mynd rhagddi, gan ddefnyddio dulliau trapio traddodiadol a’r datblygiadau diweddaraf mewn dadansoddi DNA amgylcheddol i ganfod poblogaethau newydd o lyfrothod uwchsafn er mwyn cyfrannu at y rhaglen ddileu.

Gan ddefnyddio canlyniadau rhaglen fonitro helaeth yn ne Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal astudiaeth ddichonoldeb i gael gwared ar lyfrothod uwchsafn yn y safleoedd hyn ochr yn ochr â chyflwyno mesurau bioddiogelwch, gan gynnwys arwyddion a chodi ymwybyddiaeth. Mae gwaith difa cychwynnol ar ddau safle wedi’i gynllunio ar gyfer gaeaf 2022/23.

Poster â thestun Cymraeg a Saesneg gyda chanllawiau ar gyfer genweirwyr ar gadw eu hoffer yn lân rhag rhywogaethau estron. Mae’n cynnwys ffotograff o bysgodyn arian bychan gyda’r testun ‘Rhybudd Llyfrothen Uwchsafn’, sy’n hysbysu darllenwyr bod y rhywogaeth hon yn bresennol yn yr ardal.

Ffigur 9 Mae posteri ‘Edrych Golchi Sychu’ wedi’u haddasu gyda gwybodaeth yn rhybuddio am lyfrothod uwchsafn wedi cael eu harddangos mewn safleoedd yng Nghymru.

Amcan

Blaenoriaethu ymatebion cyflym ymhellach a chynnal a datblygu’r gallu i’w cyflawni.

Camau Gweithredu Allweddol:

Byddwn yn gwneud y canlynol:

Cam Gweithredu Allweddol 4.7

Defnyddio dulliau rheoli risg i helpu i ganfod a blaenoriaethu rhywogaethau pellach i’w dileu drwy ymateb yn gyflym ym Mhrydain Fawr; 

Cam Gweithredu Allweddol 4.8

Sicrhau bod ymateb cyflym i ddileu rhywogaethau estron goresgynnol yn flaenoriaeth glir i Fwrdd y Rhaglen. Wrth wneud hynny, bydd Bwrdd y Rhaglen yn ceisio’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn rheolaidd ;

Cam Gweithredu Allweddol 4.9

Ailgynnull y Gweithgor Ymateb Brys i:

  • adolygu’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma a gwneud argymhellion ar gyfer cynyddu’r gwaith o ddarparu ymatebion cyflym
  • ymgysylltu â’r diwydiant a Chyrff Anllywodraethol i ddiffinio eu swyddogaethau o ran cefnogi mentrau dileu cyflym
  • adolygu’r gwersi a ddysgwyd o ran y cyfryngau a chyfathrebiadau am ymdrechion sensitif i ddileu rhywogaethau, a darparu canllawiau i’r cyrff gweithredu ar gyfer gwella
  • adolygu agweddau technegol ymatebion cyflym, gan wneud argymhellion ar gyfer gwella’r broses o gyfnewid gwybodaeth dechnegol

Cam Gweithredu Allweddol 4.10

Canfod a meithrin gallu ac arbenigedd wrth ymateb yn gyflym, gan gynnwys drwy rannu arferion da o fewn Prydain Fawr, yn ogystal â Gogledd Iwerddon, awdurdodaethau’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ac yn rhyngwladol.

Cam Gweithredu Allweddol 4.11

Cydlynu gwaith i sicrhau digon o gyllid a chapasiti gweithredol ar gyfer ymatebion cyflym, gan gynnwys sefydlu rôl yr Arolygiaeth NNS

Cam Gweithredu Allweddol 4.12

Sbarduno a chyflawni prosesau dileu gan ymateb yn gyflym, a hynny ar gyfer rhywogaethau sy’n cael blaenoriaeth ym Mhrydain Fawr.

 

Pennod 5: Rheoli a rheolaeth hirdymor

Mae rhai rhywogaethau estron goresgynnol sydd wedi’u sefydlu ym Mhrydain Fawr, fel dail-ceiniog arnofiol, y wiwer lwyd a chlymog Japan angen eu rheoli yn y tymor hir. Gallai hyn gynnwys dileu, cyfyngu neu reoli ar raddfa fawr, ac yn aml mae angen adnoddau ac arbenigedd sylweddol ar bob un ohonynt. Yn ymarferol, rydym yn rhoi blaenoriaeth i reoli tua 20 o’r rhywogaethau mwyaf dylanwadol yn y tymor hir. Ar gyfer rhai rhywogaethau sydd wedi lledaenu’n eang, mae bioreolaeth yn arf allweddol i helpu i leihau eu heffaith.

Ers mis Ebrill 2011, mae Defra, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Natural England, wedi bod yn ariannu ymchwil i fioreoli rhywogaethau estron goresgynnol dyfrol ac afonol[31]. Yn fwyaf diweddar, ar ôl degawd o ymchwil, cymeradwywyd i ryddhau gwiddon estron yn Lloegr i ategu’r dulliau rheoli presennol ar gyfer dail-ceiniog arnofiol.[32]. Rydym wedi ymrwymo i barhau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu dulliau gweithredu o’r fath er mwyn gwella’r gwaith o reoli rhywogaethau estron goresgynnol â blaenoriaeth yn y tymor hir. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn dulliau newydd o reoli’r wiwer lwyd (Pennod 7). Erbyn 2030, rydym yn gobeithio y bydd y dulliau newydd hyn yn cynnig dulliau mwy effeithiol, llai llafurddwys a mwy derbyniol ar gyfer rheoli effeithiau’r rhywogaethau hyn, gan ategu’r camau rheoli a nodir ar lefel llywodraethau unigol.

Rydym wedi cefnogi Grwpiau Gweithredu Lleol i reoli amrywiaeth eang o rywogaethau estron goresgynnol, gan gynnwys drwy redeg prosiectau cydlynu ar raddfa genedlaethol fel prosiect Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN)[33], Cynllun Rhywogaethau Goresgynnol yr Alban (SISI)[34] a RAPID LIFE[35] yn Lloegr. Byddwn yn parhau i gefnogi GGLlau drwy ddarparu gwell cydlyniad, adnoddau a chyllid. Bydd Defra yn ariannu cydlynydd GGLl amser llawn, a gynhelir gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, am gyfnod y strategaeth, ac yn edrych ar gyfleoedd i ddarparu cymorth ychwanegol wrth i’r rôl allweddol hon ddatblygu.

Gweithredu mesurau bioddiogelwch yw ein llinell amddiffyn gyntaf i helpu i atal rhywogaethau estron goresgynnol rhag cael eu cyflwyno’n ddamweiniol, neu i reoli lledaeniad rhywogaethau estron goresgynnol sydd eisoes yn bresennol. Mae hyn yn arbennig o bwysig lle nad yw’n bosibl dileu’r rhywogaeth, fel yn yr amgylchedd morol (astudiaeth achos ar Reoli Morol). Rydym wedi helpu i roi mesurau bioddiogelwch ar waith ac wedi dechrau cynyddu ymwybyddiaeth, gan weithio gyda grwpiau, fel Gweithgor Bioddiogelwch BIC mewn Dyframaethu a’r Bartneriaeth Bioddiogelwch Dyfrol. Byddwn yn parhau i wella ymwybyddiaeth o arferion bioddiogelwch da, a chydymffurfio â nhw, fel yr amlinellir ym Mhennod 8.

Astudiaeth achos: Mynd i’r afael â rhywogaethau estron goresgynnol sefydledig drwy weithredu lleol

Mae dros 50 o Grwpiau Gweithredu Lleol ym Mhrydain Fawr yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i leihau’r risgiau a’r effeithiau sy’n gysylltiedig ag INNS yn eu hardal leol.

Mae Grwpiau Gweithredu Lleol yn amhrisiadwy o ran sicrhau rheolaeth gynaliadwy a hirdymor ar nifer o rywogaethau estron goresgynnol ar lefel leol a rhanbarthol. Nid yn unig y maent yn rheoli rhywogaethau sy’n gyffredin ar draws Prydain Fawr, mae Grwpiau Gweithredu Lleol hefyd yn mynd i’r afael â rhywogaethau sy’n broblem leol, gan helpu i’w hatal rhag ymsefydlu’n ehangach. Maent hefyd yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o fonitro a chanfod yn gynnar, ac maent hyd yn oed wedi cyflawni rhaglen difa genedlaethol. 

Mae Grwpiau Gweithredu Lleol yn gwneud llawer iawn o waith i godi ymwybyddiaeth ymysg eu cymunedau lleol o’r risgiau a’r effeithiau sy’n gysylltiedig ag INNS. Maent yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflwyno’r ymgyrchoedd ‘Edrych, Golchi, Sychu’ a ‘Mynd at Wraidd y Mater’’, darparu hyfforddiant a chyngor i randdeiliaid lleol, ac maent wedi datblygu adnoddau gwych gan gynnwys pecynnau addysg, protocolau bioddiogelwch a deunyddiau adnabod. Mae cefnogaeth Grwpiau Gweithredu Lleol wedi bod yn allweddol o ran adeiladu ‘Wythnos Rhywogaethau Goresgynnol’.

Mae gwaith gwirfoddolwyr wedi bod yn eithriadol o bwysig yn llwyddiant Grwpiau Gweithredu Lleol.

1. Gwirfoddolwyr mewn canŵau ar afon yn casglu pentyrrau o blanhigion dyfrol goresgynnol sy'n tyfu ar wyneb y dŵr.   2. Gwirfoddolwr yn sefyll o flaen fan yn dangos poster gyda gwybodaeth am blanhigion goresgynnol. Mae gwybodaeth wedi’i hargraffu ar ochr y fan. Mae’r llun yn rhy fychan i allu darllen y testun.   3. Gwirfoddolwyr yn gwisgo dillad amddiffynnol yn chwistrellu chwynladdwr ar blanhigion bresych crebachog Americanaidd.

Ffigur 10 (1) Mae genweirwyr a phadlwyr gwirfoddol yn gweithio gyda’i gilydd i helpu i fynd i’r afael â dail-ceiniog arnofiol o dan Strategaeth Dail-ceiniog Arnofiol Prydain Fawr (Llun: Yr Ymddiriedolaeth Genweirio) (2) Grwpiau Gweithredu Lleol yn codi ymwybyddiaeth o INNS i randdeiliaid lleol (Llun: Prosiect Pwyth mewn Pryd) (3) Mae Grwpiau Gweithredu Lleol yn rheoli amrywiaeth o rywogaethau estron goresgynnol, yn cynnwys rhywogaethau eang eu gwasgariad a materion lleol, fel pidyn-y-gog Americanaidd (Llun: SISI).

Amcan

Lleihau a rheoli effaith rhywogaethau estron goresgynnol mewn modd cost-effeithiol a strategol.

Camau Gweithredu Allweddol:

Byddwn yn gwneud y canlynol:

Camau Gweithredu Allweddol 5.1

Parhau i gefnogi prosiectau cydlynu ar raddfa genedlaethol a rhanbarthol ar gyfer rheoli rhywogaethau estron goresgynnol, sy’n dod â Grwpiau Gweithredu Lleol, diwydiant a chyrff y llywodraeth at ei gilydd.

Camau Gweithredu Allweddol 5.2

Gwella ffyrdd o gefnogi gweithredu lleol strategol gan gynnwys:

  • chwilio am ffyrdd o helpu Grwpiau Gweithredu Lleol, er enghraifft drwy ddarparu cyllid ar gyfer cydlynwyr
  • chwilio am fecanweithiau cyllido tymor hir, amserol a pherthnasol ar gyfer Grwpiau Gweithredu Lleol
  • datblygu gwell cydlyniad rhwng arbenigwyr ym maes rhywogaethau estron goresgynnol a Grwpiau Gweithredu Lleol
  • parhau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu mecanweithiau ac offer cofnodi

Camau Gweithredu Allweddol 5.3

Chwilio am ffyrdd o sicrhau bod rheoli rhywogaethau estron goresgynnol yn cael ei gynnwys mewn cynlluniau newydd perthnasol lle bo hynny’n bosibl, gan gynnwys cynlluniau newydd ar gyfer amaethyddiaeth a rheoli tir.

Camau Gweithredu Allweddol 5.4

Annog adfer cynefinoedd ar ôl rheoli rhywogaethau estron goresgynnol lle bo hynny’n briodol ac integreiddio rheolaeth rhywogaethau estron goresgynnol i brosiectau adfer natur ar raddfa tirwedd.

Astudiaeth achos: Rheoli morol

Mae rhywogaethau estron goresgynnol morol yn cael effaith negyddol ar fioamrywiaeth a’r economi, gan fygwth cydnerthedd rhywogaethau brodorol, iechyd stoc dyframaethu ac integriti a swyddogaeth llongau ac offer. Maent yn gallu lledaenu drwy amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys trawsgludiad anfwriadol (er enghraifft, ar longau), rhyddhau bwriadol neu ddianc o gaethiwed. Mewn ymateb i’r heriau a achosir gan ddileu rhywogaethau estron goresgynnol morol, mae nifer o fesurau’n cael eu rhoi ar waith i leihau eu cyflwyno a’u lledaenu.

Yn 2020, lluniodd is-grŵp Amgylchedd BIC Gynllun Gweithredu Rhywogaethau Estron Goresgynnol ar gyfer Didemnum vexillum (Chwistrell fôr carped). Mewn cydweithrediad â’r diwydiant dyframaethu, mae’r Cynllun Gweithredu’n ceisio lleihau effeithiau negyddol D. vexillum drwy wella’r capasiti i ganfod, adrodd ac atal lledaeniad D. vexillum a Rhywogaethau Estron Goresgynnol eraill. Mae’r Gweithgor Bioddiogelwch mewn Pysgod Cregyn a Dyframaethu Integredig yn mynd i’r afael ag un o’r Amcanion o dan y Cynllun Gweithredu, ac ar hyn o bryd mae wrthi’n drafftio protocol bioddiogelwch gwirfoddol i gefnogi pysgodfeydd cregyn a gweithrediadau dyframaethu integredig. Nod y Protocol yw adeiladu ar yr arferion bioddiogelwch presennol sydd eisoes ar waith ar gyfer iechyd a chlefydau pysgod, ac er mwyn gallu monitro ac adrodd yn well ar Rywogaethau Estron Goresgynnol morol o’r sector pysgod cregyn.

Mae rhaff frown fain hir yn cael ei gosod mewn siâp pedol ar ddecin pren wrth ymyl corff dŵr. Mae deunydd organaidd, oren golau, trwchus yn tyfu ar un hanner o’r rhaff (Didemnum vexillum).

Ffigur 11 Didemnum vexillum ar strwythur marina artiffisial (Llun: Marine Scotland).

Fel rhan o’r gwaith o fynd i’r afael â’r llwybrau trawsgludiad, anogir gweithredwyr i ddilyn canllawiau gwirfoddol y Sefydliad Morol Rhyngwladol (IMO) ar gyfer rheoli biofaeddu llongau. Ar ben hynny, mae trwyddedu morol yn Lloegr yn cysylltu â chanllawiau arfer gorau ar sut i osgoi a lleihau achosion o fiofaeddu, er enghraifft drwy lanhau corff y llong. Yng Nghymru, mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn mynnu bod cynigion yn dangos sut byddant yn osgoi neu’n lleihau’r risg o gyflwyno a lledaenu rhywogaethau estron goresgynnol a, lle bo hynny’n briodol, yn cynnwys mesurau bioddiogelwch i leihau’r risg hon. Yn yr Alban, mae Cynllun Morol Cenedlaethol yr Alban yn ceisio nodi cyfleoedd er mwyn sicrhau bod cyn lleied â phosib o rywogaethau estron goresgynnol yn cael eu cyflwyno, ac i fynd ati’n rhagweithiol i wella arferion presennol drwy fabwysiadu’r safonau bioddiogelwch uchaf.

Yn ogystal â hyn, cytunodd y DU i Gonfensiwn Rheoli Dŵr Balast (BWMC) ar 26 Mai 2022. Daeth deddfwriaeth ddomestig y DU i rym ar 29 Gorffennaf 2022. Nod y Confensiwn Rheoli Dŵr Balast yw rheoleiddio gollyngiadau dŵr balast a lleihau’r risg o gyflwyno rhywogaethau estron goresgynnol.

 

Pennod 6: Blaenoriaethu a dadansoddi risg

Mae tua 2,000 o NNS wedi’u sefydlu ym Mhrydain Fawr[36], ac mae 10 i 15% o’r rhain wedi dod yn oresgynnol ac yn achosi effeithiau niweidiol. Bydd rhagor o NNS hefyd yn cyrraedd ac yn cael effaith yn y dyfodol. Gydag adnoddau cyfyngedig, mae’n hanfodol blaenoriaethu rhywogaethau ar gyfer gweithredu. 

Datblygwyd mecanwaith dadansoddi risg Prydain Fawr i helpu i flaenoriaethu rhywogaethau. Gan ddechrau yn 2007 mae wedi cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer Bwrdd Rhaglen NNS ers tro byd.

Mae’r NNSS yn coladu ceisiadau ac awgrymiadau am asesiadau risg o rywogaethau estron newydd gan weinyddiaethau Prydain, ymarferiadau sganio’r gorwel, a monitro rhywogaethau estron.    Caiff y rhain eu cyflwyno i Bwyllgor Prydain a Bwrdd Rhaglen y DU sy'n blaenoriaethu rhywogaethau i ddadansoddi'r risg. Mae’r NNSS yn canfod aseswyr risg arbenigol ar gyfer rhywogaethau â blaenoriaeth ac yn eu comisiynu i gynhyrchu asesiad risg newydd. Mae’r NNSS hefyd yn canfod adolygwyr cymheiriaid addas, sy’n adolygu’r asesiadau risg ac yn cynnig sylwadau arnynt. Mae’r asesiadau risg a’r sylwadau wedyn yn cael eu hadolygu gan y Fforwm Dadansoddi Risgiau Estron (grŵp o arbenigwyr) sy’n penderfynu a yw’r asesiad risg yn ateb y gofynion. Bydd unrhyw adborth yn cael ei roi i’r asesydd risg a fydd yn addasu’r asesiad risg nes bydd yn cael ei gymeradwyo gan y Fforwm Dadansoddi Risgiau Estron. Ar ôl ei gymeradwyo bydd yr NNSS yn cynhyrchu crynodeb o’r asesiad risg i Bwyllgor Prydain neu Fwrdd Rhaglen y DU i gael eu cymeradwyaeth. Bydd yr NNSS wedyn yn cyhoeddi’r asesiad risg ar ei wefan ac yn hysbysu rhanddeiliaid a fydd yn cael cyfle i wneud sylwadau ar y dystiolaeth a gyflwynwyd.

Ffigur 12 Proses Asesu Risg Rhywogaethau Anfrodorol Prydain Fawr

Mae cyfanswm o 120 o asesiadau risg wedi cael eu cyhoeddi gan y mecanwaith, o’i gymharu â 60 adeg cyhoeddi Strategaeth 2015. Mae 44 asesiad risg ar waith hefyd. Mae’r tacsonau sy’n cael sylw yn yr asesiadau’n cynnwys ystod eang o blanhigion ac anifeiliaid morol, dŵr croyw a’r tir (Tabl 1). Fel cyfran o’r holl rywogaethau anfrodorol hysbys ym Mhrydain, mae tua 3% o’r rhywogaethau yr aseswyd eu risg wedi bod yn rhai tir, 24% yn rhai morol a 58% yn rhai dŵr croyw. 

Tacsonau

Tir

Morol

Dŵr croyw

Planhigyn

17

3

20

Anifail di-asgwrn-cefn

8

15

16

Anifail ag asgwrn cefn

28

0

13

Tabl 1 Nifer y rhywogaethau yr aseswyd eu risg ym mhob grŵp tacsonomig ac amgylchedd ym Mhrydain Fawr.

Mae datblygiadau mawr wedi bod sy’n ymwneud â dadansoddi risg ers Strategaeth 2015. Defnyddiwyd ein mecanwaith dadansoddi risg fel model ar gyfer dadansoddi risg IAS yn yr UE, gyda fersiwn wedi’i addasu o’n templed asesu risg yn sail i’r rhan fwyaf o asesiadau risg IAS ar lefel yr UE. Mae’r mecanwaith hwn bellach yn cyflawni rôl statudol sy’n cefnogi Pwyllgor Prydain Fawr, sy’n cynghori Gweinidogion ar restru a dad-restru rhywogaethau sy’n peri pryder arbennig, ac mae’n cael ei oruchwylio gan y Fforwm Dadansoddi Risg Rhywogaethau Anfrodorol (NNRAF). Ar ben hynny, rydym wedi datblygu’r templedi dadansoddi risg i sicrhau eu bod yn dilyn arferion da rhyngwladol, wedi datblygu a gweithredu asesiadau rheoli risg, wedi cynhyrchu taflenni crynodeb asesu risg er mwyn cyfleu canlyniadau’n effeithiol, ac wedi helpu i ddefnyddio offer dadansoddi risg Prydain Fawr yn Nhiriogaethau Tramor y DU ac mewn mannau eraill.

Mae hi’n bwysig parhau i sicrhau bod y gwaith o ddadansoddi risg ym Mhrydain Fawr yn cael ei wneud i safon uchel, yn datblygu yn unol ag arferion da rhyngwladol, a bod asesiadau risg yn cael eu diweddaru wrth i wybodaeth newydd ddod i’r fei. Nododd yr adolygiad o Strategaeth 2015 fod angen casglu rhagor o wybodaeth rheoli risg, yn ddelfrydol ochr yn ochr ag asesiadau risg.

Byddwn yn parhau i redeg mecanwaith dadansoddi risg Prydain Fawr, gyda phwyslais ar gynnal safonau uchel a chasglu rhagor o wybodaeth rheoli risg, a pharhau i’w defnyddio i gefnogi penderfyniadau ar restru rhywogaethau. Byddwn hefyd yn parhau i ddatblygu’r offer sydd ar gael i ddadansoddi risg, i ddysgu o arferion da rhyngwladol, ac i gyfleu’r canlyniadau’n effeithiol.

Amcan

Cynnal a datblygu ymhellach fframwaith dadansoddi risg i gefnogi deddfwriaeth, gwneud penderfyniadau a blaenoriaethu.

Camau gweithredu allweddol:

Byddwn yn gwneud y canlynol:

Cam Gweithredu Allweddol 6.1

Parhau i redeg mecanwaith dadansoddi risg Prydain Fawr i gefnogi’r gwaith o restru rhywogaethau sy’n peri pryder arbennig a phenderfyniadau eraill ar ran Pwyllgor Prydain Fawr a Bwrdd Rhaglen NNS y DU;

Cam Gweithredu Allweddol 6.2

Datblygu ymhellach y mecanwaith dadansoddi risg i gefnogi blaenoriaethu adnoddau a chamau gweithredu’n strategol, gan gynnwys casglu gwybodaeth rheoli risg ochr yn ochr ag asesiadau risg;

Cam Gweithredu Allweddol 6.3

Dangos yn glir y cysylltiadau rhwng asesiadau risg, rheoli risg a phenderfyniadau polisi er mwyn hwyluso tryloywder, eglurder a chyfathrebu;

Cam Gweithredu Allweddol 6.4

Parhau i adolygu a diwygio’r mecanwaith dadansoddi risg yng ngoleuni datblygiadau cenedlaethol a rhyngwladol.

 

Pennod 7: Tystiolaeth

Mae tystiolaeth yn allweddol i gyfrannu at gamau gweithredu ar NNS. Mae hi’n hanfodol bod polisi’n seiliedig ar sylfaen dystiolaeth gref, a bydd canlyniadau ymchwil yn aml yn elfen allweddol wrth gyfrannu at asesu risg, gwyliadwriaeth, canfod, monitro, rheoli a strategaethau dileu, yn ogystal â gweithgareddau ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Mae cryn gynnydd wedi’i wneud ar rai elfennau o ymchwil strategol, yn enwedig gwaith ar bioreolaeth, effeithiau economaidd ac agweddau’r cyhoedd yn ogystal â sganio’r gorwel, agweddau ar ddadansoddi risg ac ar lwybrau. Comisiynwyd diweddariad i gostau economaidd rhywogaethau estron goresgynnol yn 2022[37]. Mae adolygiad o’r costau uniongyrchol wedi cael ei gwblhau, sy’n canolbwyntio ar gostau rheolaeth ariannol ac effeithiau NNS ar y farchnad fel diweddariad i’r ffigur blaenorol ar gyfer 2010[38]. Mae ail ddiweddariad ar y gweill hefyd i ymchwilio i effeithiau ehangach ac anuniongyrchol o dan ddull cyfalaf naturiol.

Un cam gweithredu allweddol o dan Strategaeth 2015 oedd sefydlu Gweithgor Ymchwil i helpu i gydlynu’r dystiolaeth yn well, gan gynnwys datblygu cynllun strategol. O ganlyniad, sefydlwyd y gweithgor yn 2018 gyda’r nod o gytuno ar gynllun strategol i gynnwys canfod anghenion tystiolaeth allweddol, cytuno ar fecanweithiau ar gyfer adolygu’r rhain a hyrwyddo’r rhyngweithio gorau posibl gyda chyllidwyr ymchwil ac ymchwilwyr. Cymeradwyodd Bwrdd y Rhaglen Gynllun Strategol Tystiolaeth INNS drafft Prydain Fawr ym mis Mawrth 2022. Mae Cynllun Strategol Tystiolaeth INNS Prydain Fawr[39] yn cynnwys chwe maes blaenoriaeth allweddol o ran anghenion tystiolaeth yn y dyfodol:

  • effeithiau INNS
  • tystiolaeth economaidd a gwyddor gymdeithasol ehangach
  • llwybrau
  • gwyliadwriaeth a chanfod yn gynnar
  • ymatebion brys a rheolaeth/dileu tymor hirach
  • blaenoriaethu rhywogaethau

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y cynllun strategol tystiolaeth yn cael ei gyflawni er mwyn cynnal sylfaen dystiolaeth gadarn a pharhau i gefnogi ymchwil arloesol, fel bio-reolaeth a rheoli ffrwythlondeb y wiwer lwyd.

Amcan

Hyrwyddo partneriaethau a gweithgareddau ymchwil cadarn, strategol a chydlynol i lywio’r gwaith o lunio polisïau a chamau gweithredu NNS sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Camau gweithredu allweddol:

Byddwn yn gwneud y canlynol:

Cam Gweithredu Allweddol 7.1

Cynnull y gweithgor ymchwil ddwywaith y flwyddyn i oruchwylio’r gwaith o gyflwyno cynllun strategol tystiolaeth INNS;

Cynllun Gweithredu Allweddol 7.2

Cyflawni’r blaenoriaethau a’r argymhellion a nodir yng nghynllun strategol tystiolaeth INNS, ar y cyd â’r gymuned ymchwil;

Cynllun Gweithredu Allweddol 7.3

Chwilio am gyfleoedd cyllid a phartneriaethau ar gyfer ein blaenoriaethau ymchwil strategol;

Cynllun Gweithredu Allweddol 7.4

Chwilio am gyfleoedd i gydweithio â phartneriaid rhyngwladol er enghraifft, drwy Gyngor Prydeinig-Gwyddelig, grŵp arbenigwyr Cytundeb Bern ar rywogaethau estron goresgynnol ac OSPAR er mwyn cynyddu’r manteision mwyaf posibl a lleihau dyblygu ymdrechion;

Cam Gweithredu Allweddol 7.5

Hyrwyddo rhannu ymchwil ac annog ymarferwyr i gofnodi, adrodd a rhannu arferion da a gwersi a ddysgwyd mewn ffordd hygyrch, gan gynnwys ymchwilio i bosibilrwydd cynnal cynhadledd flynyddol rhwng y Gweithgor Ymchwil a’r gymuned ymchwil ehangach;

Cam Gweithredu Allweddol 7.6

Parhau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno bioreolaeth a dulliau rheoli newydd eraill i wella’r gwaith o reoli INNS eang yn y tymor hir.

Astudiaeth achos: Rheoli ffrwythlondeb y wiwer lwyd

Ym Mhrydain Fawr, amcangyfrifir bod 2.7 miliwn o wiwerod llwyd[40] yn bygwth ein bywyd gwyllt brodorol a’n gallu i gyrraedd ein targedau amgylcheddol. Mae’r ystod o wiwerod coch wedi disgyn yn sylweddol ac mae eu poblogaethau yn Lloegr wedi disgyn i oddeutu 38,900[41] (o amcangyfrif o boblogaeth hanesyddol o 3.5 miliwn) o ganlyniad i drosglwyddiad angheuol feirws brech y wiwer a chystadleuaeth gan y wiwer lwyd. Ystyrir mai gwiwerod llwyd yw un o’r bygythiadau mwyaf i iechyd coed llydanddail[42]. Amcangyfrifir eu bod yn achosi gwerth o leiaf £37m y flwyddyn o ddifrod i goed yng Nghymru a Lloegr[43].

Mae dal a saethu yn gallu bod yn ffordd effeithiol o reoli gwiwerod llwyd ond mae hefyd yn gallu bod yn llafurddwys, yn ddrud ac mae’n rhaid ailadrodd y gwaith bob blwyddyn er mwyn cynnal yr effaith.   Mae rhai cyd-destunau maen nhw hefyd yn ddulliau annerbyniol i’r cyhoedd. Mae dulliau arloesol o reoli ffrwythlondeb yn cael eu hystyried fel ateb posibl i reoli effeithiau’r wiwer lwyd.

Ers 2016, mae Defra wedi bod yn cyfrannu cyllid at ymchwil rheoli ffrwythlondeb dan arweiniad APHA a Chydsyniad y DU ynghylch Gwiwerod (UKSA). Mae brechlyn atal cenhedlu drwy’r geg sy’n cael ei roi drwy abwyd wedi cael ei ganfod ac mae’n cael ei brofi mewn treialon mewn caethiwed. Mae teclyn bwydo hefyd wedi cael ei ddylunio i ddosbarthu brechlyn o’r fath i wiwerod llwyd sy’n byw’n rhydd, gan eithrio rhywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu. Mae’r canlyniadau cychwynnol yn awgrymu y gallai rheoli ffrwythlondeb, wrth ei ddefnyddio ar ôl difa yn y tymor byr, ddileu’n lleol o fewn yr un amserlen â difa parhaus ar ei ben ei hun ond mae’r costau’n is o lawer.[44]

Gwiwer lwyd yn sefyll ar bostyn pren o flaen blwch metel petryal.

Ffigur 13 Gwiwer lwyd yn ymweld â theclyn bwydo arbennig sydd wedi cael ei ddylunio i roi brechlyn ffrwythlondeb i’r rhywogaeth hon yn unig (Llun: Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion).

Mae pob gweinyddiaeth ym Mhrydain Fawr wedi llofnodi’r UKSA. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â phartneriaid UKSA i helpu i leihau effeithiau’r wiwer lwyd yn ein coetiroedd. Mae hyn yn cynnwys cymorth parhaus gan Lywodraeth y DU ar gyfer gwaith arloesol sy’n ymwneud â’r wiwer lwyd, fel rheoli ffrwythlondeb.

 

Pennod 8: Meithrin ymwybyddiaeth a dealltwriaeth

Mae cael gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effeithiau rhywogaethau estron goresgynnol yn bwysig er mwyn cael cefnogaeth i bolisïau a rhaglenni perthnasol, ac er mwyn ennyn ymrwymiad y cyhoedd. Mae hefyd yn hanfodol annog newid ymddygiad os oes risg o gyflwyno neu ledaenu rhywogaethau estron goresgynnol yn gysylltiedig â gweithgareddau.

Gwnaed cynnydd sylweddol yn y maes hwn ers 2015. Cyhoeddwyd Cynllun y Cyfryngau a Chyfathrebu[45] wedi’i ddiweddaru yn 2017 ac mae’r holl gamau gweithredu ynddo wedi cael eu cwblhau neu’n mynd rhagddynt ers hynny. Comisiynwyd ymchwil ddilynol i agweddau’r cyhoedd a rhanddeiliaid yn Lloegr[46] yn 2018. Mae’r canfyddiadau wedi cael eu defnyddio fel sail i waith cyfathrebu, gan gynnwys ailddatblygu ein hymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth: ‘Edrych Golchi Sychu’[47] (ail-lansiwyd yn 2018) a ‘Mynd at Wraidd y Mater’[48] (ail-lansiwyd yn 2020). Mae ‘Edrych Golchi Sychu’ hefyd wedi ehangu i fod yn ymgyrch bioddiogelwch ar y ffin gan dargedu defnyddwyr dŵr sy’n teithio dramor. Mae’r rhain a gweithgareddau eraill wedi cael eu hariannu gan gwmnïau dŵr drwy’r Bartneriaeth Bioddiogelwch Dyfrol. Ar ben hynny, rydym wedi parhau i ddatblygu ein Wythnos Rhywogaethau Goresgynnol flynyddol sy’n cynnwys dros 265 o sefydliadau yn 2022, mae prosiect Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN) wedi lansio’r ymgyrch ‘Ymledwyr Ecosystem Invaders’ yng Nghymru, ac mae’r Scottish Invasive Species Initiative (SISI) yn rhedeg rhaglenni addysg ar gyfer ysgolion a grwpiau cymunedol yn yr Alban; i gyd er mwyn codi ymwybyddiaeth o effeithiau rhywogaethau estron goresgynnol. Mae gwefan GB NNSS wedi cael ei hailddatblygu ar sail adborth gan randdeiliaid ac mae rhagor o ddeunyddiau hyfforddi ar-lein ym maes bioddiogelwch wedi cael eu datblygu.

Rydym yn gweithio’n agos â chydweithwyr mewn cyfundrefnau bioddiogelwch eraill, gan gynnwys ar gynlluniau fel Wythnos Iechyd Planhigion ac Wythnos Cacynen Asia[49] ac rydym wedi cefnogi prosiectau unigol sy’n canolbwyntio ar fioddiogelwch a chodi ymwybyddiaeth fel Biosecurity for LIFE[50], RAPID LIFE[51], SISI[52], a datblygu cynllun bioddiogelwch ar gyfer Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau[53]. Rydym hefyd yn ehangu cyrhaeddiad ein gwaith ymwybyddiaeth ar y cyd â’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig (BIC), sydd wedi arwain at fabwysiadu ‘Edrych Golchi Sychu’ a ‘Mynd at Wraidd y Mater’ ar draws wyth awdurdodaeth BIC, yn ogystal ag Wythnos Rhywogaethau Goresgynnol ar y cyd. Mae’n debyg y bydd gan Arolygiaeth NNS rôl bwysig i'w chwarae o ran codi ymwybyddiaeth o fioddiogelwch ymysg sectorau allweddol (Pennod 9.2).

Mae’r defnydd o arferion bioddiogelwch da ymysg defnyddwyr dŵr hamdden wedi cynyddu’n sylweddol[54] o ran helpu i fynd i’r afael â llwybrau blaenoriaeth, ond mae cynnydd i’w wneud o hyd yn y cyswllt hwn, yn ogystal ag â garddwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol. Byddwn yn parhau i ehangu ein defnydd o sianeli cyfryngau traddodiadol a newydd i gyrraedd y cynulleidfaoedd allweddol hyn ac yn gweithio tuag at wreiddio materion rhywogaethau estron goresgynnol mewn sawl haen o addysg, a hyfforddiant yn y sector proffesiynol.

Astudiaeth achos: Y Bartneriaeth Bioddiogelwch Dyfrol: gweithio â chwmnïau dŵr i ddiogelu rhag rhywogaethau dyfrol goresgynnol

Mae rhywogaethau dyfrol goresgynnol yn bryder difrifol i’r diwydiant dŵr ac maent eisoes yn costio o leiaf £7.5 miliwn y flwyddyn i gwmnïau dŵr[55], ffigur y disgwylir iddo godi gyda nifer cynyddol o gyflwyniadau newydd.

Er mwyn cyfyngu ar gostau yn y dyfodol, cynnal gwasanaethau, a helpu i ddiogelu’r amgylchedd, mae dros £1 miliwn wedi cael ei fuddsoddi gan grŵp o gwmnïau dŵr rhwng 2017 a 2025 mewn prosiect i wella bioddiogelwch dyfrol. Mae’r gwaith o gyflawni’r rhaglen waith yn cael ei arwain gan GBNNSS a’i gefnogi gan grŵp llywio sy’n cynnwys cwmnïau dŵr, Defra a’i asiantaethau, a phartneriaid Edrych Golchi Sychu.

Dyma rai o uchafbwyntiau’r prosiect hyd yma:

  • cynnal chwe ymgyrch bioddiogelwch Edrych Golchi Sychu flynyddol ar y ffin i atgoffa defnyddwyr dŵr hamdden i lanhau eu hoffer ar ôl teithio dramor, gan gynnwys 75 o bosteri mewn porthladdoedd a 57 o hysbysebion mewn cylchgronau
  • ailddatblygu’r ymgyrchoedd Edrych Golchi Sychu a Mynd at Wraidd y Mater, drwy lansio dros 50 o ddeunyddiau newydd i helpu i godi ymwybyddiaeth
  • dosbarthu dros 1000 o arwyddion Edrych Golchi Sychu i glybiau genweirio, cychod a phadlo ledled y wlad
  • cyhoeddi arolwg mawr o ymwybyddiaeth ac ymddygiad rhanddeiliaid allweddol gan ddangos cynnydd yn y defnydd o ymddygiad bioddiogelwch da ymysg defnyddwyr dŵr hamdden ers lansio Edrych Golchi Sychu
  • datblygu modiwl hyfforddiant bioddiogelwch ar-lein ar gyfer staff cwmnïau dŵr
  • cynyddu bioddiogelwch mewn digwyddiadau drwy ariannu gorsafoedd bioddiogelwch, datblygu canllawiau bioddiogelwch ar gyfer trefnwyr digwyddiadau genweirio a phadlo, a phrynu golchwyr pwysedd perfformiad uchel

Gwirfoddolwyr yn golchi canŵau a cheufadau mewn cystadleuaeth badlo.

Ffigur 14 Gorsaf bioddiogelwch mewn cystadleuaeth padlo phoster Edrych Golchi Sychu wedi’i arddangos mewn porthladdoedd allweddol, y ddwy ymgyrch wedi’u hariannu gan y Bartneriaeth Bioddiogelwch Dyfrol (Lluniau: Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, GB NNSS).

Dechreuodd y prosiect ar ei ail gam yn 2020 ac ar hyn o bryd mae’n cynnwys y naw cwmni dŵr canlynol: Affinity Water, Anglian Water, Northumbrian Water, Severn Trent Water, South East Water, South West Water, Southern Water, Wessex Water, Yorkshire Water. Rhagor o wybodaeth am y Bartneriaeth Bioddiogelwch Dyfrol.

Amcan

Codi ymwybyddiaeth o faterion perthnasol i rywogaethau estron goresgynnol ymysg cynulleidfaoedd targed allweddol a, pan fo'n briodol, y cyhoedd er mwyn sicrhau newid mewn ymddygiad.

Camau gweithredu allweddol:

Byddwn yn gwneud y canlynol:

Cam Gweithredu Allweddol 8.1

Parhau i adeiladu ar lwyddiannau ymgyrchoedd sy'n bodoli eisoes, gan weithio gyda rhanddeiliaid ym Mhrydain Fawr a gwledydd cyfagos i wneud gwell defnydd o fecanweithiau i ledaenu negeseuon cyson, gan gynnwys llwybrau adrodd a argymhellir a phwyso a mesur a diwygio'r ymgyrchoedd pan fo angen;

Cam Gweithredu Allweddol 8.2

Gosod y tasgau canlynol i'r Gweithgor Cyfathrebu a'r Cyfryngau:

  • adolygu ei gynllun presennol a chael mewnbwn gan randdeiliaid ac arbenigwyr yng nghyswllt cael rhagor o gymorth cyfathrebu
  • rhoi mwy o sylw i faterion rhywogaethau estron goresgynnol mewn cyfryngau traddodiadol a newydd er mwyn gwella dealltwriaeth ymysg rhanddeiliaid allweddol a’r cyhoedd yn gyffredinol
  • cefnogi’r camau cyfathrebu a nodir yn y Cynlluniau Gweithredu Llwybr
  • cefnogi gwaith cyfathrebu arolygiaeth NNS, er enghraifft i hysbysu grwpiau rhanddeiliaid a’r cyhoedd am eu cyfrifoldebau a’r ddeddfwriaeth berthnasol

Cam Gweithredu Allweddol 8.3

Gweithio â rhanddeiliaid i wreiddio rhywogaethau estron goresgynnol mewn rhaglenni addysg allgymorth, hyfforddiant mewn sectorau proffesiynol, ac adnoddau ar gyfer sefydliadau addysg ar sawl lefel, gan ddatblygu rhagor o adnoddau pan fo angen;

Cam Gweithredu Allweddol 8.4

Parhau i asesu agweddau'r cyhoedd a phwyso a mesur pa mor effeithiol yw ymgyrchoedd cyfathrebu fel sail ar gyfer y strategaeth gyfathrebu;

Cam Gweithredu Allweddol 8.5

Gweithio gyda rhanddeiliaid ar draws y sbectrwm bioddiogelwch ym Mhrydain Fawr a gwledydd cyfagos i ddatblygu negeseuon cyson ynghylch bioddiogelwch a chwilio am gymaint â phosibl o gyfleoedd i gydweithio;

Cam Gweithredu Allweddol 8.6

Cynnal, diweddaru a datblygu gwefan NNSS, gan adeiladu ar yr ail-lansiad ym mis Ebrill 2022 i sicrhau ei bod yn hawdd ei defnyddio ac yn gyfredol.

Astudiaeth achos: Ymgyrch ymwybyddiaeth o'r cimwch Americanaidd

Mae cimychiaid Americanaidd (Homarus americanus) yn bygwth y cimwch Ewropeaidd brodorol (Homarus gammarus) drwy gyflwyno clefydau, cystadlu am fwyd a lloches, a thrwy ryngfridio. Bob blwyddyn, ceir nifer fach o adroddiadau am gimychiaid Americanaidd yn cael eu dal yn nyfroedd Prydain Fawr. Ni all yr anifeiliaid hyn groesi’r Iwerydd yn naturiol ac felly maent wedi ymddangos yn nyfroedd Prydain Fawr oherwydd bod pobl wedi’u rhoi yno, naill ai’n fwriadol neu ar ddamwain.

Mae cimychiaid Americanaidd wedi cael eu mewnforio’n fyw i’w bwyta o Ganada a’r Unol Daleithiau ers diwedd y 1950au, gyda’r cofnodion cyntaf ohonynt yn nyfroedd Prydain Fawr yn dod yn 1988, a 25 arall erbyn 2011. Yn 2015, cafodd dau unigolyn ddirwy o bron i £30,000[56] am ryddhau rhywogaethau estron, gan gynnwys cimychiaid Americanaidd, oddi ar arfordir Sussex.

O ganlyniad i’r digwyddiad hwn, ac am fod adroddiadau’n parhau i ddod i law am bresenoldeb y creadur, lansiwyd ymgyrchoedd fel yr ymgyrch ‘Retain and Report’[57] gan Ganolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (CEFAS), ar draws gweinyddiaethau’r DU. Nod yr ymgyrchoedd hyn yw hysbysu pysgotwyr nad yw dal a glanio’r anifeiliaid yn anghyfreithlon, na fyddai’n arwain at gau’r dyfroedd ac y byddai’n darparu data a allai helpu i ddiogelu stociau brodorol. Mae’r ymgyrch ‘Retain and Report’ yn darparu canllawiau adnabod drwy daflen, poster a thudalen we a lansiwyd ac a rannwyd yn eang ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r ymgyrch hefyd yn egluro pwy ddylid cysylltu â nhw os bydd cimwch Americanaidd yn cael ei ddal. Y gobaith yw y bydd yr ymgyrchoedd yn ennyn hyder yn y lefelau presenoldeb a adroddir gan bysgotwyr.

Taflen gyda llun o gimwch Americanaidd a gwybodaeth ar sut i’w adnabod a ble i roi gwybod am achosion ohonynt.  Poster gyda llun o gimwch Americanaidd a gwybodaeth ar sut i’w adnabod a ble i roi gwybod am achosion ohonynt.

Ffigur 15 Deunyddiau'r ymgyrch ‘Retain and report'.

 

Pennod 9: Darpariaethau trawsbynciol

9.1 Llywodraethu a chydlynu

Mae’r gwaith o gyflawni’r Strategaeth hon yn cael ei wneud gan Fwrdd Rhaglen Rhywogaethau Estron y DU (UKNNSPB neu ‘Bwrdd y Rhaglen’) a’i Ysgrifenyddiaeth (GBNNSS – Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr) sy’n gweithredu ar ei ran. Mae’r GBNNSS hefyd yn gwasanaethu’r Fforwm Dadansoddi Risg Rhywogaethau Estron (NNRAF) a’r gwahanol weithgorau sy’n adrodd i’r Bwrdd. Yn ogystal, mae’r Fforwm Rhanddeiliaid, sy’n dod â chynrychiolwyr o amrywiaeth o sectorau at ei gilydd i drafod materion strategol, wedi bod yn cael ei gynnal ers 2004 ochr yn ochr â gweithgorau eraill a sefydlwyd gan Fwrdd y Rhaglen yn ôl yr angen. Mae gweithgorau ar lefel gwlad yng Nghymru, yr Alban a Lloegr yn dod â rhanddeiliaid allweddol o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol at ei gilydd i helpu i nodi blaenoriaethau lleol o ran rhywogaethau estron goresgynnol a datrys materion sy’n ymwneud yn benodol â’r wlad. Er bod cysylltiad agos rhwng hyn a gwaith Prydain Fawr, nid Bwrdd y Rhaglen sy’n llywodraethu’r gweithgorau ar lefel gwlad. Mae rhagor o wybodaeth am y trefniadau llywodraethu sy’n cefnogi Strategaeth Prydain Fawr ar gael yn Atodiad 1.

Nod Strategaeth 2015 oedd mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yn ystod yr adolygiad o Strategaeth 2008 ynghylch natur strategol Bwrdd y Rhaglen, yr angen i fod yn fwy tryloyw, a chael mwy o gyfranogiad gan randdeiliaid yn y broses o wneud penderfyniadau. Ers hynny, mae Gweithgor Lloegr wedi cael ei ailgynnull i ategu’r rheini yng Nghymru a’r Alban, ac mae’r GBNNSS wedi helpu i wneud Bwrdd y Rhaglen yn fwy strategol, yn enwedig drwy gynnal adolygiad cynhwysfawr o anghenion adnoddau yn 2018[58]

Er mwyn hwyluso’r broses o weithredu’r Rheoliad IAS a ddargedwir[59], roedd angen gwneud newidiadau i’r strwythurau llywodraethu presennol. Cafodd y trefniadau canlynol eu rhoi ar waith yn 2021:

  • ehangwyd aelodaeth Bwrdd Rhaglen NNS Prydain Fawr i gynnwys Gogledd Iwerddon a daeth yn UK NNSPB
  • sefydlwyd Pwyllgor Rhywogaethau Estron Prydain Fawr (GBNNSC) i gynghori Gweinidogion Cymru, Lloegr a’r Alban ar restru a dad-restru rhywogaethau sy’n peri pryder arbennig a materion eraill sy’n ymwneud â rhywogaethau sy’n peri pryder arbennig (Pennod 9.2)
  • mae’r NNRAF yn darparu cyngor gwyddonol i GBNNSC a UKNNSPB mewn perthynas â dadansoddi risg

Mae rhagor o fanylion am GBNNSC a grwpiau cysylltiedig eraill ar gael hefyd yn Atodiad 1.

Gwnaeth yr adolygiad o Strategaeth 2015 nifer o argymhellion mewn perthynas â llywodraethu. Rydym wedi ymrwymo i barhau i wella yn y meysydd hyn. Maent yn cynnwys: gwella tryloywder mewn perthynas â gwaith Bwrdd y Rhaglen; mwy o ymgysylltu rhwng Bwrdd y Rhaglen a rhanddeiliaid; adolygiad o effaith cydlynu rhywogaethau estron goresgynnol ar lefel gwlad a chyfathrebu clir lle mae dulliau gwahanol yn cael eu defnyddio; gosod blaenoriaeth glir o ddileu’n gyflym i Fwrdd y Rhaglen (fel yr amlinellir yng Ngham Allweddol 4.7) ac; adolygu’r drefn o gydlynu gwaith i fynd i’r afael â rhywogaethau estron goresgynnol morol, a’u cynnwys yn fwy helaeth yn y strategaeth.

Amcan

Cydlynu camau gweithredu ar faterion rhywogaethau estron ledled Prydain Fawr er mwyn sicrhau’r effeithiolrwydd a’r cydweithrediad gorau posibl.

Camau gweithredu allweddol:

Byddwn yn:

Cam Gweithredu Allweddol 9.1

Gwella tryloywder Bwrdd y Rhaglen ac ymgysylltu â’r Bwrdd drwy:

  • sicrhau bod y cylch gorchwyl a’r cofnodion ar gael ar wefan GBNNSS
  • parhau i oruchwylio’r gweithgorau sy’n adrodd iddo
  • gweithio i sicrhau bod gan y Strategaeth yr adnoddau priodol
  • integreiddio gwaith ar rywogaethau estron goresgynnol â chynlluniau bioddiogelwch eraill
  • cadw golwg gyffredinol ar waith asiantaethau’r llywodraeth sy’n berthnasol i reoli rhywogaethau estron goresgynnol er mwyn sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei gydlynu’n effeithiol a bod cydweithio effeithiol arno

Cam Gweithredu Allweddol 9.2

Cynnal y Fforwm Rhanddeiliaid blynyddol fel ffordd hanfodol o roi gwybod i randdeiliaid am waith Bwrdd y Rhaglen a’r Pwyllgor, gan sicrhau bod rhanddeiliaid yn cyfrannu at ddatblygu polisïau ac yn helpu i’w cyflawni.

9.2 Rheoleiddio a gorfodi

Mae’n hanfodol cael fframwaith deddfwriaethol cydlynol er mwyn mynd i’r afael â bygythiad rhywogaethau estron goresgynnol. Mae ein fframwaith deddfwriaethol ar y cyd yn dilyn y dull gweithredu a nodwyd yn Strategaethau 2008 a 2015, gyda phwyslais ar gadw golwg, canfod, ymateb yn gyflym a chynllunio gweithredu ar lwybrau ar gyfer rhywogaethau goresgynnol. Ers lansio Strategaeth 2015, rydym wedi datblygu fframwaith deddfwriaethol sy’n benodol i Brydain Fawr[60] gyda chosbau priodol a rhestr o rywogaethau sy’n peri pryder arbennig. Mae rhagor o fanylion am y fframwaith deddfwriaethol ar gael ar wefan GB NNSS

O dan ein fframwaith deddfwriaethol ar y cyd, ni ddylid mynd ati’n fwriadol i ddod â rhywogaethau o bryder arbennig i Brydain, eu cadw, eu bridio, eu gwerthu, eu defnyddio neu eu cyfnewid, caniatáu iddynt atgynhyrchu, gael eu tyfu neu eu trin, neu eu rhyddhau i’r amgylchedd o fewn Prydain Fawr, neu eu cludo i, o neu o fewn Prydain Fawr[61]. Pwyllgor Prydain Fawr, gyda chymorth yr NNRAF, sy’n goruchwylio’r adolygiad o’r rhestr hon, sy’n ofynnol bob chwe blynedd. Bydd diwygiadau i’r rhestr sy’n deillio o’r adolygiadau hyn yn cael eu gwneud drwy is-ddeddfwriaeth.

Er mwyn sicrhau effeithiolrwydd y fframwaith deddfwriaethol, byddwn yn cefnogi rheoleiddwyr i fabwysiadu dull gweithredu cyson ac yn gweithio i wella gallu, trefniadau cydlynu a chydweithredu gydag asiantaethau gorfodi. Er mwyn helpu gyda gorfodaeth a chysondeb, bydd swyddogion o Defra, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn parhau i gwrdd â rheoleiddwyr yn rheolaidd.

Yn dilyn gwaith cwmpasu yn 2020, sefydlwyd Arolygiaeth Rhywogaethau Estron beilot yn 2021. Mae’r arolygiaeth beilot wedi ymchwilio i hyd a lled yr arolygiadau y bydd eu hangen i sicrhau gwell cydymffurfiad â deddfwriaeth rhywogaethau estron goresgynnol a’r materion cyfreithiol ac ymarferol o ran sut y gallai arolygiaeth sefydledig weithio’n fwyaf effeithiol gyda chyrff sy’n bodoli eisoes. Pennwyd bod y meysydd canlynol yn rhai sy’n ddymunol ar gyfer cylch gwaith yr Arolygiaeth Rhywogaethau Estron ar ôl iddi gael ei sefydlu:

  • cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau ar y ffin ac ar ôl y ffin, er mwyn mynd i’r afael â llwybrau blaenoriaeth
  • codi ymwybyddiaeth ymysg sectorau allweddol drwy gadarnhau gofynion cyfreithiol, mynychu sioeau masnach, a gwella dealltwriaeth o lwybrau ychwanegol (fel gwerthu ar-lein)
  • cefnogi’r llywodraeth a’u hasiantaethau pan fo angen wrth ymateb i gynlluniau wrth gefn
  • cynnal ymweliadau cydymffurfio ar gyfer deiliaid trwyddedau rhywogaethau estron goresgynnol
  • helpu i gasglu data, fel ymchwilio a monitro lefel yr halogiad mewn rhai sectorau (fel rhywogaethau estron yn cuddio mewn cynnyrch garddwriaethol)

Byddwn yn parhau â’r cynllun peilot hwn gyda’r bwriad o benderfynu ymhellach ar fanylion ynghylch sut y bydd Arolygiaeth Rhywogaethau Estron sefydledig yn gweithredu, ac yn gweithio ar y cyd â chyrff eraill y llywodraeth a threfniadau bioddiogelwch.

Amcan

Parhau i adolygu a datblygu ein fframwaith deddfwriaethol, gan gynnwys y rhestr o rywogaethau sy’n peri pryder arbennig ar sail tystiolaeth, a gweithio i gynyddu lefelau cydymffurfio a gorfodi

Camau gweithredu allweddol:

Byddwn yn gwneud y canlynol:

Cam Gweithredu Allweddol 9.3

Sicrhau bod y rhestr o rywogaethau sy’n peri pryder arbennig yn adlewyrchu blaenoriaethau Prydain Fawr yn awr ac yn y dyfodol;

Cam Gweithredu Allweddol 9.4

Nodi pa bwerau pellach y gallai’r Arolygiaeth Rhywogaethau Estron fod eu hangen er mwyn cymryd camau gorfodi a chydymffurfio effeithiol;

Cam Gweithredu Allweddol 9.5

Cefnogi deddfwyr i gryfhau deddfwriaeth rhywogaethau estron goresgynnol pan fydd y cyfle’n codi a datblygu ffyrdd o’i rhoi ar waith yn effeithiol;

Cam Gweithredu Allweddol 9.6

Cynnal a gwella capasiti a gallu i sicrhau bod deddfwriaeth rhywogaethau estron goresgynnol a fframweithiau cyfreithiol eraill yn cael eu gorfodi’n gyson; 

Cam Gweithredu Allweddol 9.7

Sicrhau bod unrhyw newidiadau yn y fframwaith deddfwriaethol yn cael eu cyfleu’n effeithiol i randdeiliaid perthnasol a bod gwell ymwybyddiaeth ehangach o’r ddeddfwriaeth;

Cam Gweithredu Allweddol 9.8

Sicrhau bod gwaith rheoleiddio a gorfodi yn cael eu cydgysylltu drwy hyrwyddo cyfathrebu rheolaidd rhwng llywodraethau Prydain Fawr, eu hasiantaethau, rheoleiddwyr a chyrff gorfodi.

 

Pennod 10: Cydweithio a phartneriaeth

Fel y nodwyd drwy’r Strategaeth hon, mae cydweithio a phartneriaeth rhwng cyrff y llywodraeth, cyrff anllywodraethol a diwydiant yn hanfodol er mwyn cyflawni ein gweledigaeth. Gan gydnabod yr her ryng-gysylltiedig a byd-eang sydd yna o ran bioddiogelwch, rydym hefyd yn gweithio i wella ein gwaith o gyd-drefnu gyda strategaethau bioddiogelwch ehangach. Mae ein dull o fynd i’r afael â rhywogaethau estron goresgynnol yn cyd-fynd â phileri Strategaeth Diogelwch Biolegol y DU i “ddeall, atal, canfod ac ymateb”, targedau Strategaeth Forol y DU (UKMS)[62] ar gyfer rhywogaethau estron goresgynnol, strategaeth Bioddiogelwch Planhigion Prydain Fawr[63] a’r agenda Un Iechyd ehangach. Mae’r DU wedi bod yn gweithio gyda’n partneriaid rhyngwladol tuag at darged byd-eang newydd erbyn 2030 ar rywogaethau estron goresgynnol drwy’r CBD[64], yn ogystal â gweithio gyda’r cyfundrefnau bioddiogelwch planhigion ac iechyd anifeiliaid i ddarparu negeseuon bioddiogelwch cryf a chyson.

Drwy gydweithrediad gweithgor rhywogaethau estron goresgynnol BIC, mae wyth aelod o BIC (Atodiad 1) wedi mabwysiadu’r ymgyrchoedd ‘Gwiriwch, Glanhewch a Sychwch’ a ‘Mynd at Wraidd y Mater’ ac wedi cynnal Wythnos Rhywogaethau Ymledol flynyddol ar y cyd. Rydym hefyd wedi cytuno ar gamau gweithredu gyda gwledydd cyfagos gan gynnwys Gwlad Belg a’r Iseldiroedd i wella bioddiogelwch, gan gynnwys hyrwyddo ‘Edrych Golchi Sychu’ a chysylltu Cynlluniau Gweithredu Llwybr. Ers gadael yr UE, rydym wedi parhau i weithio gyda chydweithwyr ledled Ewrop, er enghraifft drwy Gonfensiwn Bern ar reoli’r hwyaden goch ac mewn perthynas â’r amgylchedd morol drwy’r Confensiwn ar gyfer Diogelu Amgylchedd Morol Gogledd Ddwyrain yr Iwerydd (OSPAR).

Mae’n bwysig cael y wybodaeth ddiweddaraf am arferion gorau dramor er mwyn gallu defnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i frwydro yn erbyn rhywogaethau estron goresgynnol ym Mhrydain Fawr. Ar ben hynny, mae angen cynnal cysylltiadau â rhwydweithiau a mentrau byd-eang eraill fel Grŵp Arbenigol Rhywogaethau Ymledol yr Undeb Cadwraeth Natur Rhyngwladol (IUCN ISSG) a’r Panel Rhynglywodraethol ar Wasanaethau Ecosystemau a Bioamrywiaeth (IPBES).

Tiriogaethau Tramor y DU

Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud o ran helpu Tiriogaethau Tramor y DU i ddatblygu bioddiogelwch cynhwysfawr drwy eu cefnogi gyda mynediad at arbenigedd y DU o ran dadansoddi risgiau, rheoli llwybrau, adnabod plâu, sganio’r gorwel, cynllunio wrth gefn, gallu ymateb yn gyflym a rheoli rhywogaethau, gyda chyllid wedi’i sicrhau o dan Gronfa Gwrthdaro, Sefydlogrwydd a Diogelwch y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu a chronfa Darwin Plus Defra. Ar hyn o bryd mae Defra’n gweithio’n agos gydag Adrannau Llywodraeth Ei Fawrhydi a llywodraethau Tiriogaethau Tramor ar ein Strategaeth Bioamrywiaeth Tiriogaethau Tramor newydd. Byddwn yn parhau i gefnogi Tiriogaethau Tramor y DU i wella eu bioddiogelwch.

Amcan

Sicrhau bod Prydain Fawr yn cydweithio’n ddomestig, gyda Gogledd Iwerddon, Tiriogaethau Tramor a Dibyniaethau’r Goron, ac yn rhyngwladol, i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau’n ymwneud â rhywogaethau estron, a gweithio mewn partneriaeth i ddosbarthu gwybodaeth yn effeithiol.

Camau gweithredu allweddol:

Byddwn yn gwneud y canlynol:

Cam Gweithredu Allweddol 10.1

Parhau i gydweithio â chynlluniau polisi a bioddiogelwch ehangach Prydain Fawr, fel Strategaeth Bioddiogelwch Planhigion Prydain Fawr, a sicrhau bod ein hymdrechion yn cyd-fynd â thargedau cenedlaethol a rhyngwladol;

Cam Gweithredu Allweddol 10.2

Parhau i weithio mewn partneriaeth â gwledydd cyfagos, yn enwedig awdurdodaethau’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, aelodau Confensiwn Bern, OSPAR a’r Cyngor Rhyngwladol Archwilio’r Môr (ICES) mewn perthynas â rheoli cadwraeth forol;

Cam Gweithredu Allweddol 10.3

Cryfhau’r gefnogaeth i Diriogaethau Tramor a Dibyniaethau’r Goron, er enghraifft drwy:

  • parhau â chefnogaeth Defra i Gynllun Bioddiogelwch y Tiriogaethau Tramor a gwasanaeth adnabod anifeiliaid di-asgwrn-cefn sy’n bla ar blanhigion
  • hwyluso partneriaethau rhwng sefydliadau yn y DU a Thiriogaethau Tramor
  • rhannu arbenigedd technegol
  • edrych ar y posibilrwydd o gael prosiectau rheoli a gwaredu
  • darparu hyfforddiant, gan gynnwys hyfforddiant bioddiogelwch

 

Pennod 11: Gweithredu ac adolygu

Mae’r Strategaeth hon yn rhoi sylw i ystod eang o faterion, ac mae ei gweithredoedd yn cwmpasu ystod o raddfeydd – o ran amser, y graddau daearyddol a’r mudiadau a’r unigolion sydd â rhan i’w chwarae. Byddai’n well bwrw ymlaen â llawer o agweddau ar y Strategaeth ar lefel Prydain Fawr, ond bydd yn well delio â rhai eraill ar lefel gwlad unigol, ar raddfa dalgylch neu drwy ystyried ynysoedd ac ecosystemau ynysig eraill yn unigol.

Un o argymhellion adolygiad 2020/21 oedd y dylem ddatblygu metrigau gwell i fesur llwyddiant y Strategaeth. Mae’n ddefnyddiol mesur cynnydd Strategaeth Prydain Fawr yn erbyn ei nod o leihau effeithiau negyddol rhywogaethau estron goresgynnol drwy atal, ymateb cyflym a rheoli hirdymor.

Yn y gyfres o ddangosyddion Bioamrywiaeth y DU (UKBDI)[65], cyflwynwyd y dangosydd pwysedd B6[66] o rywogaethau goresgynnol (Ffigur 1) yn 2014 fel mesur lefel uchel o’r pwysau gan rywogaethau estron goresgynnol ar wahanol fathau o gynefinoedd cyffredinol. Mae’n dangos bod nifer y rhywogaethau hyn wedi cynyddu ym mhob amgylchedd ers y 1960au. Fodd bynnag, mae hyn yn cuddio rhai llwyddiannau, fel atal cacynen Asia rhag ymsefydlu’n eang ar draws de Prydain a’r effaith y byddai hyn wedi’i gael, a dileu rhywogaethau fel llyffant crafangog Affrica, y sildyn pluog a’r cathbysgodyn penlletwad du. Byddwn yn parhau i ddefnyddio dangosydd UKBSI B6 ac yn ystyried pa ddangosyddion a metrigau ychwanegol sydd eu hangen i helpu monitro cynnydd. Yn Lloegr, mae dangosyddion hefyd yn cael eu datblygu fel rhan o’r Fframwaith Dangosyddion Canlyniadau i fesur cynnydd yn erbyn nodau rhywogaethau estron goresgynnol yn y Cynllun Amgylchedd 25 Mlynedd. Bydd y rhain yn cael eu hadolygu’n rheolaidd a rhoddir ystyriaeth i’w datblygu’n pellach i helpu i fonitro cynnydd ar gyfer Prydain Fawr.

Yn ogystal â dangosyddion, byddwn yn edrych ar fetrigau penodol i helpu i fesur pa mor effeithiol yw’r Strategaeth. Gall hyn gynnwys olrhain nifer yr achosion o ryng-gipio (fel y rhywogaethau estron goresgynnol sy’n cael eu hatal rhag ymsefydlu), dileu (fel dileu rhywogaeth o’r gwyllt ar ôl iddi ymsefydlu) a nifer y rhywogaethau sy’n cael eu rheoli.

Byddwn hefyd yn defnyddio metrigau i fonitro cynnydd ar gamau gweithredu allweddol yn y Strategaeth ac yn adrodd ar hyn yn flynyddol drwy Fwrdd Rhaglen y DU. Bydd y Strategaeth yn cael ei hadolygu o bryd i’w gilydd drwy gynllun gweithredu i sicrhau ei bod yn gweithio’n effeithiol a bod y mesurau’n ddigon hyblyg i ymateb i newid yn yr amgylchiadau. Bydd y Strategaeth hon yn cael ei hadolygu yn ei chyfanrwydd yn 2030.

Camau gweithredu allweddol:

Byddwn yn gwneud y canlynol:

Cam Gweithredu Allweddol 11.1

Parhau i ddefnyddio a datblygu dangosyddion perthnasol i fesur effeithiolrwydd cyffredinol y Strategaeth;

Cam Gweithredu Allweddol 11.2

Datblygu a gwneud y prosiect NNSIP yn gyfrifol am gynnal metrigau penodol i fesur effeithiolrwydd, er enghraifft nifer y rhywogaethau sy’n cael eu rhyng-gipio, eu dileu a rhywogaethau sy’n cael eu rheoli;

Cam Gweithredu Allweddol 11.3

Drafftio a chyhoeddi cynllun gweithredu er mwyn:

  • nodi’r prif arweinwyr a chyfranwyr i gyflawni pob Cam Gweithredu Allweddol
  • helpu i fonitro’r ffordd y caiff y Prif Gamau Gweithredu eu cyflawni
  • helpu i adolygu llwyddiant Camau Gweithredu Allweddol o ran cyflawni’r Canlyniadau a’r Amcanion Allweddol
  • cyfrannu at adroddiad cynnydd blynyddol ar weithredu o dan y Strategaeth

Cam Gweithredu Allweddol 11.4

Gwerthuso ac adnewyddu’r Strategaeth yn 2030.

 

Atodiad 1: Llywodraethu ar gyfer Strategaeth Prydain Fawr

Llywodraethu

Datblygwyd y trefniadau llywodraethu ar gyfer Strategaeth Prydain Fawr i wella’r broses o gydlynu polisi a gweithredu rhywogaethau estron ar draws Prydain Fawr. Nid ydynt yn cyflwyno pwerau na chyfrifoldebau newydd, ond yn lle hynny maent yn gweithio gyda rolau a chyfrifoldebau presennol mudiadau ym Mhrydain Fawr ac yn sicrhau cydlyniad a chydweithio â’r rhai hynny sydd yng Ngogledd Iwerddon. Swyddogaeth y mecanweithiau llywodraethu yw cydlynu camau gweithredu ar gyfer rhywogaethau estron nad ydynt fel arall yn dod o dan gyfundrefnau eraill (er enghraifft, y cyfundrefnau iechyd anifeiliaid a phlanhigion).

Bwrdd Rhaglen Rhywogaethau Estron y DU (UKNNSPB)

(Bwrdd Rhaglen GBNNS gynt)

Mae Bwrdd Rhaglen GBNNS wedi cael ei ehangu i gynnwys Gogledd Iwerddon ac mae ei enw wedi newid i UKNNSPB. Ei gylch gwaith yw goruchwylio’r camau gweithredu a nodir yn y Strategaeth a chynnal cydlyniad a chydweithio rhwng y camau gweithredu a gyflawnir o dan y Strategaeth a gweithio i fynd i’r afael â rhywogaethau estron yng Ngogledd Iwerddon. Mae’n cynnwys uwch swyddogion polisi o’r pedair gwlad, yn ogystal â chynrychiolwyr o asiantaethau’r llywodraeth. Nid yw’r UKNNSPB yn gorff statudol ond mae’n adrodd i Weinidogion Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Mae’n cyfarfod 2 i 4 gwaith y flwyddyn. Mae papurau’n cael eu drafftio a’u cyflenwi gan GBNNSS naill ai ar gais UKNNSPB neu wrth i faterion newydd godi sydd angen eu hystyried.

Fforwm Dadansoddi Risg Estron (NNRAF)

(Panel Dadansoddi Risg Rhywogaethau Estron gynt)

Grŵp craidd o arbenigwyr dadansoddi risg yw’r NNRAF. Maent yn darparu cyngor cadarn ac annibynnol sy’n seiliedig ar risg i’r GBNNSPB. Mae’r Fforwm hefyd yn cyfarfod fel y “fforwm gwyddonol” y cyfeirir ato yn Erthygl 28 o’r Rheoliad IAS a ddargedwir er mwyn darparu’r dadansoddiad risg a’r cyngor gwyddonol sydd eu hangen ar gyfer gweithredu Erthyglau 4, 5, 9, 10 a 18 o’r Rheoliad IAS a ddargedwir. Mae’r Fforwm yn cyfarfod sawl gwaith y flwyddyn i adolygu a chymeradwyo asesiadau risg, sy’n cael eu cwblhau a’u hadolygu gan arbenigwyr annibynnol. Maen nhw hefyd yn goruchwylio gwelliannau i broses y mecanwaith dadansoddi risg.

Gweinidogion s’n penodi aelodau Bwrdd Rhaglen UKNNS, Pwyllgor GBNNS a NNRAF. Gellir gweld agendâu a chofnodion UKNNSPB a GBNNSC ar wefan GBNNSS.

Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr

Y GBNNSS yw ysgrifenyddiaeth UKNNSPB a GBNNSC. Ei brif ddyletswyddau yw cefnogi’r camau gweithredu a chyflawni rhaglen waith i gwrdd â nodau UKNNSPB a GBNNSC. Yr Ysgrifenyddiaeth yw’r canolbwynt ar gyfer cyfathrebu a chydlynu rhwng y Pwyllgor, Bwrdd y Rhaglen, y gweithgorau a’r rhanddeiliaid.

Sefydlir nifer o weithgorau gan GBNNSS ar ran UKNNSPB a GBNNSC yn ôl yr angen i archwilio materion penodol neu sicrhau canlyniadau penodol. Hyd yma, mae’r gweithgorau canlynol wedi cael eu sefydlu:

Gweithgor y Cyfryngau a Chyfathrebu

Sefydlwyd y Gweithgor Cyfryngau a Chyfathrebu i lunio Cynllun Strategol y Cyfryngau a Chyfathrebu ar gyfer Bwrdd y Rhaglen. Ers cyhoeddi’r cynllun yn 2017, mae llawer o’r camau gweithredu wedi cael eu cyflawni, gyda chefnogaeth gan aelodau’r Gweithgor. Mae’r grŵp bellach yn goruchwylio gwaith cyfathrebu ym Mhrydain Fawr, gan gyfarfod sawl gwaith y flwyddyn i adolygu cynnydd, darparu rhagor o argymhellion a chefnogi camau gweithredu. 

Gweithgorau Cynllun Gweithredu Llwybrau

Gweithgorau PAP sy’n datblygu Cynlluniau Gweithredu Llwybr ar gyfer Bwrdd y Rhaglen, ac maent yn cynnwys cynrychiolwyr perthnasol o’r llywodraeth, asiantaethau, arbenigwyr, y diwydiant a Chyrff Anllywodraethol. Hyd yma, sefydlwyd gweithgorau PAP ar gyfer sŵau, genweirio, cychod a garddwriaeth. Ar ôl cael eu datblygu, bydd gweithgorau PAP hefyd yn goruchwylio’r gwaith o gyflawni’r Cynlluniau Gweithredu.

Gweithgor Ymateb Cyflym

Sefydlwyd y Gweithgor Ymateb Cyflym yn 2008 gyda’r prif nod o ddrafftio’r Adroddiad Ymateb Brys ar gyfer Bwrdd y Rhaglen; protocol ar sefydlu proses glir ar gyfer gweithredu ymatebion cyflym yn erbyn rhywogaethau estron goresgynnol ym Mhrydain Fawr. Mae’r grŵp yn cael ei ailsefydlu i helpu i gyflawni camau gweithredu allweddol o dan Strategaeth 2022.

Gweithgor Ymchwil

Sefydlwyd yn 2018 i helpu gwella cydlyniad, datblygu cynllun strategol, argymell ffyrdd o gyfathrebu’n well â’r gymuned ymchwil, a dylanwadu ar y rhai sy’n cyllido ymchwil. Yn 2021, lluniodd y grŵp gynllun tystiolaeth drafft, a’r brif elfen o hynny yw nodi blaenoriaethau a bylchau allweddol yn y dystiolaeth. Cymeradwyodd Bwrdd y Rhaglen Gynllun Strategol Tystiolaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol Prydain Fawr ym mis Mawrth 2022.

Fforwm Rhanddeiliaid

Mae’r Fforwm Rhanddeiliaid yn dwyn ynghyd gynrychiolwyr o amrywiaeth eang o sectorau sy’n ymwneud â materion rhywogaethau estron goresgynnol, gan gynnwys cynrychiolwyr o’r diwydiant a grwpiau gweithredu lleol. Mae’n gyfle i drafod materion strategol ac mae’n ffordd o gynnwys rhanddeiliaid yn y gwaith o ddatblygu polisi ac amcanion rhywogaethau estron goresgynnol. Mae’n annog trafodaeth ac yn helpu i hwyluso cyfnewid gwybodaeth. Mae GBNNSS yn trefnu digwyddiad Fforwm Rhanddeiliaid blynyddol, ac fe’i cynhelir ym mhob un o Weinyddiaethau Prydain Fawr yn eu tro.

Porth Gwybodaeth am Rywogaethau Estron

Mae’r Porth Gwybodaeth am Rywogaethau Estron yn allweddol i ddarparu swyddogaeth gwyliadwriaeth, canfod yn gynnar a monitro ar gyfer Prydain Fawr. Mae swyddogaethau’r NNSIP yn cynnwys darparu storfa ganolog ar gyfer gwybodaeth am rywogaethau estron a data am eu dosbarthiad, cynyddu llif data am eu dosbarthiad i gronfeydd data canolog, darparu swyddogaeth sganio’r gorwel a chynnal system rybuddio. Mae llawer o waith NNSIP i’w weld drwy wefan NNSS, lle mae gwybodaeth am yr holl rywogaethau estron a gofnodir ym Mhrydain Fawr ar gael yn ogystal â thaflenni gyda ffeithiau manwl am 300 o rywogaethau.

Grwpiau a Phwyllgorau cysylltiedig eraill

Pwyllgor Rhywogaethau Estron Prydain Fawr (GBNNSC)

Prif swyddogaeth y Pwyllgor yw cynghori Gweinidogion y DU, Cymru a’r Alban ar restru a dadrestru rhywogaethau o bryder arbennig a materion eraill sy’n ymwneud â chyflawni gofynion yn y Rheoliad IAS a ddargedwir. Mae’r GBNNSC yn gorff statudol a sefydlwyd fel “y Pwyllgor” y cyfeirir ato yn Erthygl 27 o’r Rheoliad IAS a ddargedwir ac mae’n adrodd i Weinidogion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’n cynnwys uwch swyddogion polisi o dair llywodraeth Prydain Fawr, yn ogystal â chynrychiolwyr o asiantaethau’r llywodraeth. Mae’n cyfarfod 2 i 4 gwaith y flwyddyn. Mae papurau’n cael eu drafftio a’u cyflenwi gan GBNNSS naill ai ar gais UKNNSPB neu wrth i faterion newydd godi sydd angen eu hystyried.

Grwpiau Gweithredu Lleol

Grwpiau neu brosiectau yw Grwpiau Gweithredu Lleol sy’n canolbwyntio ar leihau’r risgiau a’r effeithiau sy’n gysylltiedig â rhywogaethau estron ymwthiol mewn ardal benodol. Mae rhai prosiectau’n cynnwys sir neu ranbarth, tra bo eraill yn canolbwyntio ar un dalgylch afon. Mae’r gweithgareddau a gyflawnir gan Grwpiau Gweithredu Lleol yn amrywio yn dibynnu ar yr ardal y maent yn gweithredu ynddi. Mae’r Grwpiau’n amhrisiadwy o ran sicrhau rheolaeth gynaliadwy a hirdymor ar rai rhywogaethau estron goresgynnol ar lefel leol a rhanbarthol. Maent hefyd yn gwneud llawer iawn o waith i gynyddu ymwybyddiaeth o’r risgiau a’r effeithiau sy’n gysylltiedig â rhywogaethau estron goresgynnol ymysg eu cymunedau ac maent wedi helpu i bontio’r bwlch rhwng polisi lefel uchel a rhanddeiliaid lleol.

Gweithgorau’r gwledydd

Sefydlwyd grwpiau ar lefel gwlad yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Y Gweithgor Rhywogaethau Estron Goresgynnol yn Lloegr, y Grŵp Gweithredu ar Rywogaethau Estron yn yr Alban a Grŵp Rhywogaethau Estron Goresgynnol Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru. Sefydlwyd y grwpiau hyn i helpu i nodi blaenoriaethau a datrys materion sy’n berthnasol yn benodol ar lefel gwlad. Mae gan bob grŵp o leiaf un cynrychiolydd ar UKNNSPB ac mae’r GBNNSS yn mynychu cyfarfodydd ar lefel gwlad.

I holi am ymuno â grŵp neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i UK Coordination.

Is-grŵp rhywogaethau estron goresgynnol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

Sefydlwyd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig fel rhan o’r cytundeb amlbleidiol a wnaed ym Melfast ar 10 Ebrill 1998. Mae aelodau’r Cyngor yn cynnwys cynrychiolwyr o lywodraethau Iwerddon a’r DU, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, yr Alban, Cymru, Guernsey, Ynys Manaw a Jersey. Mae is-grŵp Rhywogaethau Estron Goresgynnol yn un o bedwar is-grŵp sy’n dod o dan adain sector gwaith BIC Amgylchedd, ynghyd â’r amgylchedd morol, sbwriel môr, ac addasu i’r hinsawdd. Mae gan bob is-grŵp ei aelodau ei hun o blith wyth Aelod BIC sydd wedyn yn cyfrannu at brif sector gwaith BIC Amgylchedd.

 

Atodiad 2: Diffiniadau o Dermau Allweddol

Mecanwaith rhybuddio

System a ddefnyddir i roi gwybod yn gyflym am rywogaethau estron goresgynnol penodol.

Bioreolaeth

Defnyddio gelyn naturiol neu ysglyfaethwr i reoli rhywogaeth estron oresgynnol.

Bioddiogelwch

Y set o ragofalon sy’n ceisio atal organebau niweidiol rhag cael eu cyflwyno a lledaenu.

Gwyddoniaeth dinasyddion

Aelodau o’r cyhoedd yn casglu a dadansoddi data, fel arfer fel rhan o brosiect ar y cyd â gwyddonwyr proffesiynol.

Cynllun wrth gefn

Cynllun lefel uchel i ymateb i fygythiad rhywogaethau estron goresgynnol yn y dyfodol.

Sganio’r gorwel

Proses systematig a ddefnyddir i ganfod bygythiadau yn y dyfodol gan rywogaethau estron goresgynnol nad ydynt eisoes wedi ymsefydlu ym Mhrydain Fawr.

Dyframaeth integredig

Safle sy’n cynnwys pysgod asgellog a physgod cregyn.

Rhywogaethau estron goresgynnol

Unrhyw rywogaeth estron sy’n gallu lledaenu gan achosi difrod i’r amgylchedd, i’r economi, i’n hiechyd neu i’r ffordd rydym yn byw.

Monitro

Cyfres o arsylwadau dros amser (sy’n ymwneud yn aml â dosbarthiad rhywogaethau) sy’n cael eu defnyddio fel arfer i fesur tueddiadau.

Rhywogaethau estron

(Sy’n cyfateb i ‘rywogaethau anfrodorol’) – Rhywogaeth a gyflwynir yn fwriadol neu’n anfwriadol y tu allan i’w tharddiad cynhenid drwy weithredoedd gan bobl

Un Iechyd

Dull cydweithredol, aml-sector a thrawsddisgyblaethol—sy’n gweithio ar y lefelau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang—gyda’r nod o sicrhau’r canlyniadau iechyd gorau posibl gan gydnabod y rhyng-gysylltiad rhwng pobl, anifeiliaid, planhigion a’u hamgylchedd cyffredin.

Llwybr

Term eang sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r ffordd mae rhywogaethau estron goresgynnol yn cael eu cyflwyno neu’n ymledu (mae’n cynnwys, er enghraifft, pwrpas, trywydd a dull cyflwyno).

Cynllun Gweithredu Llwybr

Cynllun lefel uchel sy’n amlinellu’r nodau polisi eang a’r camau gweithredu sydd wedi’u cynllunio i leihau’r risg a achosir gan lwybr penodol.

Ymateb cyflym

Dechrau gweithredu yn erbyn bygythiad rhywogaethau estron goresgynnol ar adeg pan allai buddugoliaeth strategol o bwysigrwydd lleol, rhanbarthol neu genedlaethol ddal fod yn bosibl.

Dadansoddi risg

Y broses gyffredinol sy’n rhoi tystiolaeth i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i helpu pennu’r blaenoriaethau ar gyfer rheoli rhywogaethau estron goresgynnol (mae’n cynnwys: adnabod perygl, asesu’r risg, rheoli’r risg a chyfathrebu’r risg).

Asesiad risg

Rhan o’r dadansoddiad risg, asesu’n systematig y risg a achosir gan rywogaethau estron (nid yw’n ystyried manteision rhywogaethau estron nac ymatebion posibl i’w rheoli).

Rheoli risg

Rhan o’r dadansoddiad risg, yn asesu’n systematig y dewisiadau sydd ar gael ar gyfer rheoli rhywogaethau estron goresgynnol gan gynnwys dadansoddi costau a buddion.

Rhywogaeth sy’n peri pryder arbennig

Mae ‘rhywogaeth estron oresgynnol sy’n peri pryder arbennig’ yn rhywogaeth estron oresgynnol y mae ei heffaith andwyol yn cael ei hystyried yn un sy’n galw am weithredu ar y cyd ledled Prydain Fawr yn unol ag Erthygl 4(3) o Reoliad Rhywogaethau Estron Goresgynnol 1143/2014 yr UE a ddargedwir.

Gwyliadwriaeth

Edrych ar rywbeth yn fanwl, fel arfer i ganfod newid neu ddigwyddiad penodol fel dyfodiad rhywogaethau estron goresgynnol newydd. 

 

[1] Adroddiad ar yr Asesiad Byd-eang o Wasanaethau Ecosystemau a Bioamrywiaeth | ysgrifenyddiaeth IPBES

[2] Mae’r ffigur ar gyfer Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) sydd wedi eu cynnwys yn Strategaeth Prydain Fawr.

[3] Targed 6 CBD: https://www.cbd.int/doc/c/e6d3/cd1d/daf663719a03902a9b116c34/cop-15-l-25-en.pdf

[4] Adolygiad o Strategaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol Prydain Fawr (2015) 

[5] Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol

[6] Comisiwn OSPAR

[7] Strategaeth Forol y DU

[8] Mae’n cyfateb i IAS – ‘Invasive Alien Species’

[9] UKBI - B6. Rhywogaethau gorsegynnol | Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur - Cynghorydd y Llywodraeth ar Gadwraeth Natur

[10] Asesiad Annibynnol o Risg Hinsawdd y DU

[11] Ffyniant i bawb: Cymru sy’n Effro i'r hinsawdd | GOV.WALES

[12] Climate Ready Scotland: climate change adaptation programme 2019-2024 - gov.scot (www.gov.scot)

[13] CABI 2022, yn y wasg.

[14] CABI 2022, yn y wasg.

[15] Adolygiad o Strategaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol Prydain Fawr (2015)

[16] Prosiect yr Hwyaden Goch, GB NNSS

[17] Cynlluniau Wrth Gefn Generig, GB NNSS

[18] Porth Gwybodaeth am Rywogaethau Estron

[19] Cynllun Strategol Tystiolaeth

[20] Wythnos Rhywogaethau Goresgynnol » NNSS (nonnativespecies.org)

[21] Partneriaeth Bioddiogelwch Dyfrol

[22] Mae ‘rhywogaeth estron oresgynnol sy’n peri pryder arbennig’ yn rhywogaeth estron oresgynnol y mae ei heffaith andwyol yn cael ei hystyried yn un sy’n galw am weithredu ar y cyd ledled Prydain Fawr yn unol ag Erthygl 4(3) o Reoliad Rhywogaethau Estron Goresgynnol 1143/2014 yr UE a ddargedwir (Rheoliad IAS). Pennod 9.2 am ragor o wybodaeth am ‘rywogaethau sy’n peri pryder arbennig’.

[23] Mae’r IMO, trwyddedu morol a’r Confensiwn Rhyngwladol ar Reoli Dŵr Balast a Gwaddodion Llongau (BWMC) yn mynd i’r afael â thyfiant morol yn hel ar gyrff llongau masnachol a dŵr balast

[24] Cynlluniau wrth gefn

[25] Asesiad Annibynnol o Risg Hinsawdd y DU (CCRA3)

[26] Roedd NBN Atlas wedi disodli Porth NBN yn 2017

[27] Plant Alert

[28] Monitro cacynen Asia gydag ap newydd wedi’i ddatblyu gan wyddonwyr CEH

[29] Strategaeth Forol y DU Rhan Dau

[30] Cynlluniau wrth gefn

[31] Mae cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer yr ymchwil hwn hefyd wedi cael ei ddarparu gan Asiantaeth yr Amgylchedd, yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, cwmnïau dŵr preifat, y Weinyddiaeth Amddiffyn, a nifer o Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt ac Awdurdodau Lleol. Mae CABI yn cynhyrchu adroddiadau cryno cyhoeddus o’r enw “Progress with Weed Biocontrol Projects” bob 6 mis. Mae’r rhain ar gael ar Wefan NNSS Prydain Fawr 

[32]Wonder Weevil’ released in fight against invasive floating pennywort - GOV.UK (www.gov.uk)

[33] Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN) | Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

[34] Scottish Invasive Species Initiative

[35] Prosiect RaPID LIFE

[36] UK Biodiversity Indicators 2021 B6: Pressure from invasive species

[37] CABI 2022, yn y wasg. Y gost ar gyfer rhywogaethau sy’n cael sylw yn Strategaeth INNS Prydain Fawr yw £1.84 biliwn y flwyddyn.

[38] Cyfeirnod: F. Williams, R. Eschen, A. Harris, D. Djeddour, C. Pratt, R.S. Shaw, S. Varia, J. Lamontagne-Godwin, S.E. Thomas, S.T. Murphy 2010. The Economic Cost of Invasive Non-Native Species to the British Economy. CABI, Wallingford, 198 pp.

[39] Cynllun Strategol Tystiolaeth

[40] A Review of the Population and Conservation Status of British Mammals - JP025 (naturalengland.org.uk)

[41] A Review of the Population and Conservation Status of British Mammals - JP025 (naturalengland.org.uk)

[42] Grey squirrel control survey report 2021

[43] An analysis of the cost of grey squirrel damage to woodland 2021

[44] S. Croft, J.N. Aegerter, S. Beatham, J. Coats, G. Massei, A spatially explicit population model to compare management using culling and fertility control to reduce numbers of grey squirrels, Ecological Modelling, Volume 440, 2021, 109386, ISSN 0304-3800, https://doi.org/10.1016/j.ecolmodel.2020.109386.

[45] Cynllun y Cyfryngau a Chyfathrebu 2017

[46] Arolwg o Agweddau, Gwybodaeth ac Ymddygiad mewn perthynas â Rhywogaethau Estron (PDF)

[47] Ymgyrch Edrych Golchi Sychu

[48] Ymgyrch Mynd at Wraidd y Mater

Arweinir[49] Wythnos Cacynen Asia gan Gymdeithas Gwenynwyr Prydain, a gefnogir gan Defra ac APHA.

[50] Prosiect Biosecurity for LIFE - cadw adar môr y DU yn ddiogel:

[51] Prosiect RaPID LIFE

[52] Scottish Invasive Species Initiative

[53] Cynllun Bioddiogelwch PLAS | Pen Llŷn a’r Sarnau (penllynarsarnau.co.uk)

[54] Arolwg o Agweddau, Gwybodaeth ac Ymddygiad mewn perthynas â Rhywogaethau Estron (PDF)

[55] Invasive and Non-Native Species (INNS) Implications on the Water Industry (ukwir.org)

[56] Gov.uk news: Penalty for release of non-native species

[57] Ymgyrch ‘Retain and Report’

[58] Tystiolaeth ysgrifenedig atodol a gyflwynwyd gan Defra.

[59] Cafodd Rheoliad Rhywogaethau Estron Goresgynnol yr UE1143/2014 (y Rheoliad IAS) ei drosi’n gyfraith ddomestig gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Mae nawr yn ‘gyfraith yr UE a ddargedwir’. Gwnaeth y DU ddiwygiadau i’r Rheoliad IAS drwy Reoliadau Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Diwygio ac ati.) (Ymadael â’r UE) 2019 i ddarparu, ymysg materion eraill, rhestr o rywogaethau sy’n peri pryder arbennig yn benodol ym Mhrydain Fawr a strwythurau llywodraethu newydd.

[60] Cafodd Rheoliad Rhywogaethau Estron Goresgynnol yr UE1143/2014 (y Rheoliad IAS) ei drosi’n gyfraith ddomestig gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Mae nawr yn ‘gyfraith yr UE a ddargedwir’. Gwnaeth y DU ddiwygiadau i’r Rheoliad IAS drwy Reoliadau Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Diwygio ac ati.) (Ymadael â’r UE) 2019 i ddarparu, ymysg materion eraill, rhestr o rywogaethau sy’n peri pryder arbennig yn benodol ym Mrydain Fawr a strwythurau llywodraethu newydd.

[61] Mae’r rhestr o rywogaethau sy’n peri pryder arbennig ar gael ar y tudalennau cyfarwyddyd canlynol ar gyfer anifeiliaid a phlanhigion. Fe’i rhestrir hefyd yn yddeddfwriaeth.

[62] y Rhaglen o Fesurau diweddaraf i gyflawni Statws Amgylcheddol Da yn nyfroedd domestig y DU (a gyhoeddwyd ddechrau 2022) a bydd asesiad newydd o’r Statws yn cael ei gyhoeddi yn 2024

[63] Mae Strategaeth Bioddiogelwch Planhigion Prydain Fawr yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, a bydd yn cael ei chyhoeddi yn 2022.

[64] Mae Targed 6 CBD wrthi’n cael ei drafod ar hyn o bryd. Bydd dolen yn cael ei hychwanegu pan fydd wedi’i chwblhau.

[65]UK Biodiversity Indicators      

[66] UK Biodiversity Indicators 2021 B6: Pressure from invasive species